Mae cyn-amddiffynnwr Caerdydd, Chris Barker, wedi marw yn 39 oed.

Fe wnaeth 180 ymddangosiad i Gaerdydd yn ystod ei bum mlynedd gyda’r clwb.

Roedd yn gweithio fel hyfforddwr datblygiad proffesiynol yng nghlwb Forest Green pan fu farw.

Dywed ei gyn cwmni cyswllt: “Roedd Chris yn gleient drwy gydol ei yrfa lle gwnaeth dros 500 ymddangosiad i glybiau megis Barnsley, Caerdydd, Queens Park Rangers a Plymouth Argyle.

“Roedd Chris yn berson gwych, yn ŵr bonheddig ac roedd yn bleser gweithio gydag ef.”