Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi beirniadu elusen cyfergyd Headway am gwestiynu penderfyniad meddygon y tîm cenedlaethol i adael Daniel James ar y cae yn ystod gêm.

Fe ddywedodd Ryan Giggs fis diwethaf fod Daniel James yn “strydgall” am aros ar lawr ar ôl cael ei daro yn ystod gêm ragbrofol Ewro 2020 yn erbyn Croatia.

Roedd hi’n ymddangos fel pe bai’r chwaraewr ifanc wedi dioddef cyfergyd ac fe ddylai fod wedi mynd oddi ar y cae ar wastad ei gefn, ond fe barhaodd e i chwarae ar ôl cael triniaeth.

Yn ôl Ryan Giggs, roedd e wedi pasio profion cyfergyd cyn gwneud y penderfyniad i aros ar y cae, ac wedi defnyddio greddf wrth benderfynu peidio â gadael.

Ond mae Peter McCabe, prif weithredwr elusen Headway, yn dweud bod sylwadau Ryan Giggs yn “syfrdanol”.

Mae’n dweud bod penderfyniad Ryan Giggs wedi rhoi’r tîm meddygol mewn sefyllfa anodd ac nad yw’n deg defnyddio protocol cyfergyd er mwyn ennill mantais.

Ymateb Ryan Giggs

Wrth ymateb i’r feirniadaeth, mae Ryan Giggs yn dweud y gallai fod wedi geirio’i sylwadau “ychydig yn wahanol”.

Mae’n dweud ei fod e’n “rhwystredig” ar ôl gorfod trafod cyflwr chwaraewr oedd heb ddioddef cyfergyd.

Mae hefyd yn dweud nad yw Headway wedi crybwyll Ethan Ampadu, oedd hefyd wedi cael ergyd drom yn ystod y gêm.

“Ces i fy synnu nad oedden nhw wedi sôn am Ethan, oedd wedi dod bant ag anaf i’w ben,” meddai. “Sefydliad fel yr un hwnnw heb ffydd yn ein hadran feddygol, sy’n rhagorol….”

Mae’n dweud ei fod e wedi tynnu Joe Allen a Kieffer Moore oddi ar y cae mewn gemau eraill fel rhan o’r protocol cyfergyd.

“Ond does dim byd yn cael ei ddweud am hynny,” meddai. “Y targed hawdd yw Dan James oherwydd mae e’n chwarae i Man U. Mae’n creu
penawdau.”

Mae’n dweud nad yw elusen Headway wedi cysylltu ag ef ers y gêm.