Rhieni a phlant yn creu murlun i henoed Llanbedr Pont Steffan

Diweddarwyd am  
Datgelu'r murlun newydd yng nghartref preswyl Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan

Datgelu’r murlun newydd yng nghartref preswyl Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan

Llun Cyngor Sir Ceredigion

Mae canolfan deuluol a chylch meithrin yn ardal Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn cydweithio er mwyn creu murlun arbennig ar gyfer cartref henoed lleol.

Cafodd y murlun lliwgar, sydd bellach yn hongian ar wal Cartref Preswyl a Chanolfan Dydd Hafan Deg, ei greu ar y cyd gan Ganolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan a Chylch Meithrin Carreg Hirfaen yng Nghwmann.

Mae’r Ganolfan Deuluol yn ymweld â thrigolion Hafan Deg yn rheolaidd er mwyn cadw’r cysylltiad rhwng pobol ifanc a hŷn y gymuned.

“Diolch i’r staff a’r teuluoedd yng Nghanolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan am helpu i gynhyrchu murlun mor hyfryd yma yn Hafan Deg a Chanolfan Dydd Llanbedr Pont Steffan,” meddai Rachael Jones, rheolwr Hafan Deg.

“Mae ein preswylwyr, defnyddwyr y gwasanaeth a’r staff bob amser yn edrych ymlaen at ymweliadau gan deuluoedd Canolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan – maen nhw’n dod â llawer o lawenydd a hapusrwydd iddyn nhw…”

Yn ôl Elin Vaughan-Miles, cydlynydd Canolfan Deuluol Llanbedr Pont Steffan, bu’r gwaith o greu’r murlun yn “brofiad gwych” i’r teuluoedd.

“Roedd y plant wrth eu boddau’n bwrw ati ac rydyn ni i gyd yn hapus gyda’r murlun,” meddai.

Celf Weledol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Cofio Eirwyn Pontsiân – darlith Lyn Ebenezer