Mae dyn 19 oed wedi cael ei gludo o Faes yr eisteddfod i ysbyty Stoke, yn dilyn damwain yn gynharach yr wythnos hon.

Mae golwg360 yn deall ei fod wedi bod yn ceisio dringo un o’r polion baneri amrywiol ar y Maes ar gyrion Llanrwst, cyn syrthio.

Wrth syrthio, fe gwympodd ar bolyn arall gerllaw.

Mae nifer o’i gyfeillion yn poeni amdano.