Mae disgwyl y bydd llywodraeth Prydain yn cyhoeddi canllawiau ar sawl awr o gwsg y dylai pobl ei gael bob nos.
Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd The Times, mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock, ar fin cyhoeddi papur gwyrdd ar iechyd cyhoeddus sy’n trafod y berthynas rhwng cwsg ac iechyd.
Mae disgwyl i hyn gynnwys argymhellion oriau cwsg ar gyfer gwahanol oedrannau, a ffactorau eraill sydd ynghlwm â “chysgu iach”.