Mae un o bob 13 o bobol ifanc o dan 18 oed yn profi PTSD yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ymchwil newydd, ac mae galw am wneud mwy i’w helpu.

Ar yr un pryd, mae bron i draean – 31% – wedi mynd trwy brofiad trawmatig pan yn blentyn.

Dywedodd Professor Andrea Danese o King’s College London – wnaeth gynnal yr ymchwil – y dylai’r ymchwil fod yn “rybudd i ni ddeffro” wrth ystyried y diffyg cefnogaeth i’r bobol ifanc hyn.

Astudiodd yr ymchwilwyr mwy na 2,000 o blant gafodd eu geni yng Nghymru a Lloegr rhwng 1994 a 1995.

Dangosodd yr ymchwil fod 7.8% ohonyn nhw wedi profi PTSD cyn cyrraedd 18 oed.

Er hynny, un ym mhob pump – 20.6% – o’r grŵp yma oedd yn dweud eu bod wedi derbyn cymorth gan arbenigwr iechyd meddwl yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae symptomau PTSD yn cynnwys atgofion gofidus a hunllefau, osgoi pethau sy’n eu hatgoffa o’r trawma, ynghyd â theimladau o euogrwydd, unigrwydd a datgysylltiad.

Credir mai hwn yw’r ymchwil cynhwysfawr cyntaf i edrych ar y cyflwr ymhlith pobol ifanc yng ngwledydd Prydain.