Mae artist-seiciatrydd a chwythwr trombon wedi bod yn gweithio ar brosiect unigryw fydd yn clymu jazz a chelf.

Gyda chefnogaeth ariannol gan Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a Gofal Celf, mi fydd y Dr Rhys Bevan Jones a Gareth Roberts yn creu darnau o gelf i weithio fel sgôr gerddorol i fand jazz ei berfformio yn eu prosiect ‘Cynrychioli’r Meddwl’.

Yr amcan yw archwilio sut mae elfennau gweledol yn cysylltu ag elfennau cerddorol ym meddyliau pobol, a cheisio craffu ar y berthynas.

Mae’r perfformiad wedi ei amseru fel ei fod yn agos i ‘Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2018’, ddydd Mercher yr wythnos hon (Hydref 10).

Mi fydd yr agoriad ddydd Mawrth, Hydref 16, yn Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd, a’r arddangosfa ddilynol yn parhau tan Hydref 26.