Nos ’fory (nos Sul, Medi 23) bydd rhaglen ar S4C yn edrych ar sut wnaeth teulu Irfon Williams – yr ymgyrchydd canser a fu farw ym mis Mai y llynedd – ddelio â’u galar.

Roedd Irfon Williams, o Fangor, yn 46 oed ac yn dad i bump o blant. Er gwaethaf ei salwch, a thriniaethau enbyd wedi iddo ddioddef gyda chanser y coluddyn, fe ymgyrchodd yn llwyddiannus i alluogi cleifion yng Nghymru gael meddyginiaethau trin canser oedd ar gael yn Lloegr ond yn cael eu hatal rhag cael eu defnyddio yng Nghymru.

Cafodd ei ymgyrch ‘Hawl i Fyw’ sylw ledled y byd a chododd filoedd o bunnoedd tuag at wella gwasanaethau i gleifion canser a’u teuluoedd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor gyda chymorth miloedd o bobol o bob cwr o Gymru. Mae’r ymgyrch codi arian honno sef #timIrfon #teamIrfon dan fantell Awyr Las, Betsi Cadwaladr yn parhau.

Bydd y rhaglen yn dilyn gwraig Irfon Williams, Rebecca, a’u dau fab, Siôn sy bellach yn naw oed, a Ianto’n saith, o fis Hydref 2017 tan yn ddiweddar.