Mae’r cerddor Gruff Rhys yn rhyddhau cân arbennig yr wythnos hon i nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) yn 70 oed.

‘No Profit in Pain’ yw ei henw, ac mae’n clodfori’r sefydliad am gynnig help llaw gydol oes i bobol, yn rhad ac am ddim.

Dyna pam y mae’n dweud y gallwn ni, fel Cymry, ymfalchïo “fel cenedl” yn y gwaith a arweiniodd at sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn 1948.

“Mae hi’n hawdd i ni gymryd yr NHS yn ganiataol,” meddai Gruff Rhys wrth golwg360. “Dw i’n nabod lot o gerddorion sydd methu fforddio yswiriant ac weithiau pobol sydd methu disgyn yn ôl ar sustem fel hyn.

“Dw i wedi gweld pobol mewn sefyllfaoedd gwael iawn sydd methu fforddio triniaeth, am wahanol resymau. Dw i’n meddwl bod o’n rhywbeth sydd angen ei warchod.

“Mi fasa’n gas gen i feddwl lle faswn ni heb y gwasanaeth yma, ac mewn ffordd mae’n gwbwl amhosib cyfleu’r effaith mae o wedi cael yn uniongyrchol ar fy mywyd i, mewn cân. Ond, dw wedi trio, a dyma hi!”

Moli

“O’r crud i’r bedd / O’r eiliad y cefais fy ngeni, wnes di ofalu amdana’ i a fy nghadw’n gryf / Peidiwch â’i rwygo’n ddarnau,” cana’r cerddor yn Saesneg.

Nid dyma’r tro cynta’ i Gruff Rhys – cyn-aelod o Ffa Coffi Pawb a phrif leisydd y Super Furry Animals – gyfansoddi cân wleidyddol. Fe gyhoeddodd gân serch i Ewrop, ‘I Love EU’, yn dilyn refferendwm Brexit yn 2016.

A dyw Gruff Rhys ddim yn swil o feirniadu busnesau – ac entrepreneurs fel Richard Branson – sy’n gweld eu cyfle i wneud arian allan o ddioddefaint pobol eraill a rhedeg rhannau o’r NHS er mwyn gwneud elw.

“Rhedwch am y mynyddoedd pan welwch chi nhw’n dod,” meddai, cyn canmol Aneurin Bevan, William Price a Betsi Cadwaladr, ymysg eraill, sydd wedi rhoi’r pwyslais ar ofal yn hytrach nag arian.

Mae’r gân ‘No Profit in Pain’ yn cael ei chyhoeddi ar y cyd â National Theatre Wales – corff sy’n cynnal sawl digwyddiad heddiw (Gorffennaf 5) i nodi gweledigaeth y gwleidydd o Dredegar, Aneurin Bevan.

Mae’r gân ‘No Profit in Pain’ i’w gweld a’i chlywed yn llawn yma. Dyddiad swyddogol ei rhyddhau ydi Gorffennaf 7.