Mae Bardd Plant Cymru yn cyhoeddi cerdd arbennig heddiw (Gorffennaf 5) er mwyn nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn 70 oed.

‘Ti’ yw enw’r gerdd, ac mi fydd y darn yn cael ei gyflwyno gan y bardd ei hun, Casia William, i staff Ward Cilgerran, Ward Blant Ysbyty Glangwili.

Daw hyn fel rhan o gynllun Bwrdd Iechyd Hywel Dda i sicrhau bod wardiau plant yn rhan o’r dathliad, ac i gyflwyno llenyddiaeth i blant mewn modd “cyffrous”.

Mae’r gerdd wedi’i osod ar bosteri, ac mi fydd y posteri yma yn cael eu gosod mewn wardiau plant ledled y wlad.

“Braint”

“Roedd hi’n fraint o’r mwyaf cael ysgrifennu cerdd i ddathlu pen-blwydd y gwasanaeth yn 70,” meddai Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru.

“Roeddwn i am wneud yn siŵr y byddai plant yn deall y gerdd, gan mai mewn wardiau plant y bydd hi’n ymddangos, felly mae hi’n syml, ac yn cyffwrdd ar y pethau sy’n gyffredin i ni gyd wrth ymweld ag ysbytai; y bobl garedig, y llenni lliwgar o gwmpas y gwely, ac wrth gwrs, y gofal.

“Gobeithio bydd y gerdd yn taro nodyn gyda rhieni a phlant sy’n ei darllen mewn wardiau plant yng Nghymru.”

Y gerdd

Ti yw’r un sy’n dweud “Mae’n iawn”,

yn tynnu coes i basio’r pnawn.

Ti yw’r un sy’n sychu’r gwaed,

yn gosod baglau wrth fy nhraed.

Ti yw’r llenni lliwgar braf

sy’n lliwio oriau hir yr haf.

Ti yw’r tiwb sy’n cario aer

i mi gael sgwrsio gyda’m chwaer.

Ti yw bîp y peiriant mawr

sydd wrth fy ngwely bach bob awr.

Ti yw’r un sy’n canu cân

pan fydda i wedi blino’n lân.

Ti yw’r un sy’n creu cast gwych

ac aros nes bod dagrau’n sych.

Ti yw’r doctor ddaw â gwên

a llygaid doeth a geiriau clên.

Ti yw’r nyrs sy’n nabod Mam,

yn nabod fi, yn gwybod pam.

Ti yw’r un sy’n gwagio’r pot,

yn gwagio’r bin, yn chwerthin lot.

Ti yw’r dwylo meddal, mud,

sy’n dod â chysur cynnes, clyd.

Ti yw’r curiad cyson, iach

sy’n dawnsio lond fy nghalon fach.

Ti yw’r ffrind sydd fyth ymhell,

yn ffrind am oes pan fydda i’n well.

Casia Wiliam