Fe fydd ‘Gofalu Trwy’r Gymraeg’, ap Prifysgol Abertawe a enillodd wobr gan Lywodraeth Cymru yn 2014, yn cael ei ddiweddaru ar ôl derbyn rhagor o nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe’n lansio’r diweddariad ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd heddiw.

Enillodd yr ap wobr arloesi yng ngwobrau ‘Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol’ Llywodraeth Cymru yn 2014.

Fe gafodd ei ddatblygu gan gwmni Galactig a’i lansio yn 2011, a’i lawrlwytho dros 10,000 o weithiau ers hynny – mae ar gael yn rhad ac am ddim drwy App Store a Google Play.

Y ddwy fersiwn

Roedd y fersiwn wreiddiol o’r ap yn cynnwys geiriau, termau ac ymadroddion maes iechyd a gofal er mwyn i weithwyr yn y maes gyfathrebu â chleifion yn y Gymraeg.

Ond mae bellach wedi cael ei ehangu’n sylweddol gan Lynsey Thomas o Academi Hywel Teifi.

“Mae’r diweddariad hwn yn gyfle i sicrhau profiadau dysgu gwell i’r defnyddwyr,” meddai.

“Mae adrannau ychwanegol o derminoleg ac ymadroddion sy’n benodol ar gyfer meddygon, ymwelwyr iechyd, gweithwyr gofal a ffisiotherapyddion wedi’u creu, gyda’r ynganiadau’n cael eu llefaru unwaith eto gan Nia Parry, y tiwtor iaith a’r gyflwynwraig deledu, sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe.

“Ymhlith y datblygiadau newydd eraill mae cyfarwyddyd i weithwyr ar gynnal sgyrsiau anffurfiol ar bynciau fel y tywydd, er mwyn tawelu meddyliau eu cleifion.

“Hefyd, mae gallu gan yr ap i anfon hysbysiadau ymwthiol i ffonau defnyddwyr, er enghraifft Ymadrodd y Dydd, a’r gobaith yw bydd hyn yn procio ac yn annog defnyddwyr i ddal ati i ddefnyddio’r ap a’u Cymraeg”.