Mae Theresa May wedi dweud y dylid “ymchwilio’n llawn” i unrhyw gwynion am fwlio yn y Senedd, yn dilyn honiadau o gam-drin staff gan ASau gan gynnwys y Llefarydd John Bercow.

Mae ymchwiliad gan Newsnight y BBC yn honni bod clercod benywaidd sy’n gweithio i’r Tŷ Cyffredin wedi wynebu aflonyddu neu fwlio gydag awgrym y byddai eu gyrfaoedd yn dioddef pe baen nhw yn cwyno.

Gwadodd John Bercow ymddygiad o fwlio, tra dywedodd llefarydd Tŷ’r Cyffredin ei fod yn “gyflogwr cyfrifol a chefnogol” ac nid oedd yn goddef “bwlio neu aflonyddu o unrhyw fath”.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Downing Street fod y Prif Weinidog Theresa May o’r farn bod y cyhuddiadau yn “achosi pryder”.