Llygredd o geir a ffatrioedd yw'r ffactor mwyaf, yn ol gwaith ymchwil Llun: PA
Mae nifer y bobol a fu farw o ganlyniad i lygredd yn y Deyrnas Unedig yn 2015 ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, yn ôl gwaith ymchwil.

Bu farw 50,000 o bobol yng ngwledydd Prydain am resymau’n ymwneud â llygredd yn ystod 2015, sy’n cyfri am 8.39% o farwolaethau’r flwyddyn, ac sydd ymhlith yr uchaf yn Ewrop – gyda Slofacia ar 8.95%, Hwngari ar 9.72% a Gwlad Pwyl ar 10.8%.

Ledled y byd wedyn, bu llygredd yn gyfrifol am farwolaethau 9 miliwn o bobol – sef un person am bob 6 – gydag ymchwilwyr yn dweud mai llygredd o ffatrïoedd a cheir oedd y ffactor mwyaf, gan gyfrif am 6.5% o’r ffigwr hwnnw.

Mae’r adroddiad yng nghylchgrawn meddygol y Lancet hefyd yn dweud mai’r gwledydd a welodd y cyfartaledd uchaf yw’r rheiny lle mae diwydiant yn datblygu’n gyflym, fel India, lle bu bron i chwarter o’r 2.5 miliwn o bobol a fu farw yn 2015 yn marw oherwydd llygredd.

Angen “newid”

Yn ôl Philip Landrigan o Ysgol Feddyginiaeth Icahn yn Efrog Newydd, a gydarweiniodd yr ymchwil, mae’r broblem gyda llygredd yn fwy na “her amgylcheddol”; mae’n fygythiad i les a chyflwr iechyd y ddynoliaeth.

“Mae’n haeddu sylw llawn arweinwyr rhyngwladol, y gymdeithas sifil, doctoriaid, a phobol ledled y byd”, meddai.

Mae Simon Gillespie, prif weithredwr Sefydliad Prydeinig y Galon, yn mynnu wedyn fod y ffigyrau hyn yn ein “hatgoffa” am yr effaith “angheuol” mae llygredd yn achosi ledled y byd.

“Yng ngwledydd ynys Prydain”, meddai, “mae’r ansawdd gwael o aer yn effeithio ar y bobol wannaf yn ein cymunedau, sy’n cynnwys yr ifanc, yr henoed a’r rheiny sy’n dioddef o wahanol afiechydon.

“Mae’n bryd cael newid.”