Llun: PA
Mae’r gofal sydd ar gael i fenywod yng Nghymru sydd yn dioddef salwch iechyd meddwl yn ystod ac ar ôl cyfnod o feichiogrwydd, yn “hollol annigonol”.

Dyma’r casgliadau sy’n cael eu hamlinellu mewn adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Mawrth (Hydref 17) gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad.

Mae’r Aelodau Cynulliad wedi galw am ailagor uned mam a baban (MBU) yn ne Cymru – ers 2013 mae mamau wedi gorfod teithio i Loegr am wasanaeth.

Argymhelliad arall yn yr adroddiad yw bod Llywodraeth Cymru yn trafod â Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr er mwyn sefydlu gwasanaeth trawsffiniol yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Mae’n debyg bod hyd at 20% o fenywod yn dioddef salwch iechyd amenedigol ac mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod hyd at 6,656 o ferched wedi wynebu hyn yn 2015.

“Annerbyniol”

“Ar sail y dystiolaeth wnaethom dderbyn yn ystod ein hymholiad rydym yn credu bod darpariaeth gofal i famau sydd ag achosion difrifol o salwch meddyliol amenedigol yn hollol annigonol,” meddai’r adroddiad.

“Er ein bod ni’n derbyn bod y gwasanaethau mwyaf arbenigol ar adegau yn galw bod cleifion yn teithio, mae’r ansicrwydd o ran y trefniadau â Lloegr ar hyn o bryd yn annerbyniol.”

“Croesawu”

“Rydym yn croesawu adroddiad y pwyllgor sydd yn amlygu’r ffaith bod angen i Lywodraeth Cymru wella’r ffordd y maen nhw’n cefnogi iechyd meddwl mamau newydd a menywod sy’n feichiog,” meddai Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr, Angela Burns.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn croesawu’r adroddiad, ac mi fyddan nhw’n ymateb maes o law.