Mae bwyta pryfetach yn boblogaidd yn y Dwyrain Pell, ond powdwr o bryfed fydd yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru (Takoradee CCA3.0)
Powdwr o bryfetach fydd un o’r cynhyrchion mewn arbrawf newydd i wella bwyd i blant.

Mae cwmni Bug Farm Foods o Sir Benfro yn un o bedwar cwmni yng Nghymru sy’n rhannu chwarter miliwn o bunnau i ddatblygu bwydydd iach.

Fe fydd y cwmni, sy’n arbenigo ar greu bwyd o bryfed a thrychfilod eraill, yn arbrofi trwy ddefnyddio powdwr pryfed mewn bwydydd poblogaidd fel byrgyrs a sosejus.

Maen nhw a’r tri chwmni arall wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru a’r corff Innovate UK i ddatblygu cynnyrch newydd gyda llai o fraster a siwgr a mwy o fitaminau, ffeibr a mwynau llesol.

Y tri chwmni arall

  • Fe fydd cwmni arall o Bwllheli, Pennotec, yn abrofi ar ddefnyddio ffibrau o lysiau a ffrwythau i’w defnyddio mewn bwydydd eraill.
  • Tynnu braster drwg – braster dirlawn – o gaws fydd nod Bridghead Food Partners o ardal Wrecsam, gan ychwanegu rhagor o fitaminau.
  • Ac fe fydd Pas Farm o Lanfaelog, Ynys Môn, yn ceisio tynnu braster a siwgr o hufen iâ heb effeithio ar yr ansawdd wrth fwyta.

Lleihau nifer plant rhy drwm

Nod y cynllun arbrofol yw mynd i’r afael â’r broblem o blant a phobol ifanc sy’n llawer rhy dew – yn ôl ffigurau diweddar, mae 40% o blant Cymru yn rhy drwm neu’n ordew erbyn bod yn 11 oed.

Yn ôl y Llywodraeth, mae problemau gordewdra yn cosio £73 miliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

“Mae mynd i’r afael a gordewdra yng Nghymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a thrwy wella deiet ein plant heddiw, rydym yn sicrhau y byddant yn oedolion iach yfory,” meddai Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Iechyd Cymru, Lesley Griffiths.