Llun: PA
Mae angen sicrhau bod darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei weld fel “mater o angen” o fewn y gwasanaeth iechyd meddwl.

Dyna yw safbwynt Sophie Ann sydd yn aelod o dîm ‘meddwl.org’, sef gwefan sy’n darparu gofod i bobol rannu profiadau a chael gwybodaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg.

 hithau’n ‘Ddydd Iechyd Meddwl’ mae Sophie Ann a ‘meddwl.org’ yn galw am newid agweddau fel bod darpariaeth Gymraeg ddim yn cael ei ystyried yn “fraint.”

“Ar hyn o bryd dydy’r agweddau ddim yn ddigon aeddfed,” meddai Sophie Ann wrth golwg360. “Yn gyffredinol mae angen lot fwy o gydnabyddiaeth ymysg y byrddau iechyd ac ymysg yr ymarferwyr meddygol, bod iaith yn rhan o’r gwasanaeth.

“Mae’n ffactor yn yr un modd a phenderfynu pa therapi sydd orau i rywun, neu pha gyffuriau sydd orau i rywun. Dydy o ddim yn rhywbeth ar wahân a dydy o’n bendant ddim yn fraint neu’n luxury.

“Ac yn anffodus, dw i’n teimlo bod yr arwahanrwydd yna yn parhau ar hyn o bryd. Mae iaith yn cael ei weld fel ‘os gallwn ni wnawn ni’ ond dydy o ddim yn cael ei weld fel mater o angen – fel rhan o’r gwasanaeth.”

Sensitifrwydd ieithyddol

Mae Sophie Ann wedi gwneud gwaith ymchwil yn y maes ac yn nodi bod “cyfrwng iaith y gwasanaeth yn cyfyngu datgeliad y person” – hynny yw, faint maen nhw’n fodlon cyfleu am eu cyflwr.

Mae’n nodi bod diffyg gwasanaeth trwy famiaith unigolyn yn “rhwystro eu gallu i ymhelaethu” ac felly mae am weld darpariaeth “awtomatig” o “wasanaethau sy’n ieithyddol sensitif.”

“Rydych chi yna o bosib ar eich mwyaf bregus yn trio cyfathrebu’r hyn sydd yn digwydd yn eich pen chi,” meddai.

“Dydych chi ddim cweit yn dallt eich hunan. Dydych chi ddim yn gwybod sut i ddelio efo fo. Ac ar ben y straen o hynny mae angen trio cyfieithu’r meddyliau.

“Dyna pam dylai bod gwasanaethau sy’n ieithyddol sensitif yn cael eu darparu’n awtomatig heb i’r claf orfod gofyn amdanyn nhw.”