Mae syrfewyr siartredig sydd wedi’u lleoli yn Llambed yn dweud bod yr iaith Gymraeg wedi rhoi “mantais amlwg” i un o’u canghennau yng Ngwynedd.

Mae gan asiantaeth Baileys and Partners Agency LLP gangen newydd yn Harlech, ac maen nhw’n nodi bod hanner eu busnes yno yn cael ei wneud trwy’r Gymraeg.

Yn ôl yr asiantaeth, mae cysylltiadau ac arbenigedd lleol ymysg eu “prif ystyriaethau” erbyn hyn, ac mae asiantaethau gweledig sydd wedi “gwreiddio yn y gymuned” ar dwf.

Deall y gymuned

“Mae’n hanfodol cael dealltwriaeth go iawn o gyd-destun, cymuned a’r amgylchedd yr ydych yn gweithredu ynddi ar ran eich cleientiaid,” meddai arbenigwr marchnata digidol o’r cwmni, Gwion Llwyd.

“Mae sgiliau iaith Gymraeg yn rhan o’r gymysgedd honno, gyda thua hanner ein busnes stadau wyneb yn wyneb yn cael ei wneud drwy gyfrwng y Gymraeg.”