Alun Davies
Mewn cyfweliad â golwg360, mae Gweinidog y Gymraeg yn mynnu bod y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn realistig.

Roedd Alun Davies yn ymateb i sylwadau’r Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, arbenigwr ar ieithoedd lleiafrifol o Brifysgol Caerdydd sy’n amheus o’r targed.

“Mae’r targed yn realistig, dw i’n meddwl bod e’n uchelgeisiol ond yn realistig. Dyw’r Llywodraeth ddim yn mynd i gyflwyno hyn, mae’r genedl yn mynd i,” meddai Alun Davies.

“Os yw Cymru, fel cenedl, fel gwlad, fel pobol, eisiau gweld yr iaith yn tyfu ac yn ffynnu – bydd pobol yn dod ati i ddysgu Cymraeg, sicrhau bod plant yn cael y cyfle i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddysgu Cymraeg yn yr ysgol.

“Felly dyw hyn ddim yn darged i Lywodraeth neu Weinidog, neu hyd yn oed i Senedd, mae’n darged ar gyfer cenedl a pha fath o genedl ry’n ni eisiau bod yn y dyfodol.”

10,000 o siaradwyr bob blwyddyn

Dywed Diarmait Mac Giolla Chriost y bydd angen i’r Llywodraeth greu 10,000 o siaradwyr Cymraeg newydd bob blwyddyn os am gyrraedd y nod ymhen 33 o flynyddoedd.

Ond yn ôl y Gweinidog, a gyhoeddodd ei strategaeth dydd Mawrth, does dim angen bod mor benodol â hynny.

“Dw i’n credu bod cyrraedd y targed o fewn dwy genhedlaeth yn realistig, os ydych chi’n edrych ar hyn mewn ffordd fecanistig iawn, lle mae’n rhaid cyrraedd 10,000 bob un flwyddyn am beth bynnag gyfnod, wel yn amlwg, dyw bywyd ddim yn byw fel ‘na.

“Does dim scapegoats yma – rydyn ni’n mynd i sicrhau bod gennym ni gynllun, ry’n ni’n dechrau’r daith heddiw a gweledigaeth.

“Ry’n ni’n gosod mas y weledigaeth a beth ry’n ni’n mynd i sicrhau dros y misoedd nesaf yw ein bod ni’n gosod y manylion o sut ry’n ni’n mynd i gyrraedd ein targedau mewn pob un sector a phob un maes gwahanol.”

Bydd cyfweliad llawn ag Alun Davies yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.