Dai Lloyd AC
Mae’r awgrym y dylid cyflwyno deddf a fyddai’n diogelu enwau llefydd hanesyddol yng Nghymru, wedi’i wrthod ym Mae Caerdydd heddiw.

Roedd Aelod Cynulliad Plaid Cymru tros Orllewin De Cymru, Dai Lloyd, wedi gofyn am ganiatâd y Cynulliad i gyflwyno’r bil a fyddai’n diogelu enwau lleoedd hanesyddol ym mhob iaith.

Eisoes mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol Cymru 2016 yn weithredol, sydd yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i “lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru”. Ond nid yw’r enwau ar y rhestr hon wedi’u diogelu gan y ddeddf honno.

Daw galw am y ddeddf yn sgil cyfres o enghreifftiau o lefydd hanesyddol yng Nghymru yn colli eu henwau Cymraeg gan gynnwys Faerdre Fach a ddaeth yn ‘Happy Donkey Hill’.

Cam ymlaen

“Yn aml, mae’n enwau lleoedd ni yn adlewyrchu topograffeg ardal, cysylltiad â pherson hanesyddol neu nodedig, cysylltiad â digwyddiadau yn y gorffennol, neu gyfnodau sydd wedi cael effaith ar hanes cymdeithasol-ddiwylliannol ac economaidd Cymru,” meddai Dai Lloyd.

“Diben y Bil yw diogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru, er mwyn trio sicrhau na chaiff elfen allweddol o’n treftadaeth genedlaethol ei cholli – yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn ieithoedd eraill.

“Does dim diogelwch ar gael i enwau lleoedd hanesyddol ar y foment, ond am y ffaith eu bod nhw’n bodoli, neu yn mynd i fodoli ar y rhestr genedlaethol sy’n cael ei ddatblygu dan Ddeddf 2016, felly fydde unrhyw gam yn gam ymlaen.”