Trefor, bro enedigol Geraint Jones
Mae’r aelod cynta’ o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i gael ei garcharu fel rhan o ymgyrch i sicrhau statws swyddogol i’r iaith, yn dweud wrth golwg360 fod y mis dan glo wedi chwalu ei yrfa’n gyfan gwbwl.

Roedd Geraaint Jones wedi graddio yn y Gyfraith o Aberystwyth erbyn iddo gael ei garcharu ym mis Ebrill 1966 am wrthod talu treth ei gar.

“Roedd gen i radd yn y Gyfraith, roedd hi wedi canu arna’ i wedyn i feddwl am gael gyrfa yn y gyfraith ond ro’n i’n dallt hynny, ro’n i’n gwybod hynny ac yn fodlon aberthu peth felly,” meddai.

“Labrwr bues i wedyn am rai blynyddoedd yn y maes adeiladu, es i wedyn i weithio gyda’r Undeb Amaethwyr ac yn y blaen, ges i llawer o swyddi fel yna… doedd fy nghymwysterau academaidd, galwedigaethol i yn dda i affliw o ddim i fi wedyn.”

Aeth Geraint Jones ymlaen i ddysgu wedi hynny, gan ddechrau fel athro peripatetig yn dysgu plant i chwarae offerynnau.

“Wnes i orffen yn brifathro fy hen ysgol yma yn Nhrefor am ychydig o flynyddoedd… Ro’n i’n ddigon bodlon, ro’n i’n gael byw yn fy mro a gwasanaethu fy mro, dyna’r peth pwysicaf.”

Aros yn y Fro

Mae Geraint Jones o’r farn y dylai Cymry Cymraeg aros yn eu bro a magu teuluoedd Cymraeg, gan brynu eiddo yn yr ardal hefyd.

“Mae yna ddigon o Gymry cyfoethog, buasai fo’n beth da iawn [os] buasai nhw’n prynu rhai o’r tai yma sy’n mynd yn rhad, yn lle eu gadael nhw i fynd rhwng y cŵn a’r brain,” meddai.

“Nid tai haf ydy’r peryg mwyaf ond teuluoedd yn symud i mewn yma o Loegr, rheina sy’n lladd yr iaith.”

Mae Geraint Jones i’w glywed yn rhannu ei bryderon am ddyfodol yr iaith a’r cymunedau Cymraeg yn y clip sain yma: