Dylai fod treth ar hysbysebion er mwyn sefydlu darlledwr Cymraeg newydd a fyddai’n gweithredu ar radio, teledu ac ar-lein.

Dyna yw awgrym papur trafod sy’n cael ei lansio gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli heddiw.

Bydd y mudiad iaith yn cyhoeddi papur sy’n argymell codi cannoedd o filiynau o bunnau drwy dreth newydd – ar hysbysebion a darlledwyr preifat – er mwyn ariannu darlledu aml-gyfrwng Cymraeg a darlledwyr cyhoeddus eraill.

Dywed yr ymgyrchwyr fod elw cwmnïau fel Sky a Google wedi cynyddu yn sylweddol dros y blynyddoedd diweddar, tra bod yr arian sydd ar gael i ddarlledwyr cyhoeddus wedi cael ei gwtogi’n llym.

Yn ôl y papur, dim ond £11.2 miliwn wnaeth Google dalu mewn treth gorfforaethol yn 2012, a hynny ar incwm o £3.5 biliwn yng ngwledydd Prydain.

Ar yr un pryd, mae ariannu o goffrau’r Llywodraeth ar gyfer S4C wedi cael ei gwtogi 92% ers 2010.

Ymysg y siaradwyr yn y lawns ar faes yr Eisteddfod heddiw fydd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Prif Weithredwr y Grŵp Hawliau Agored Jim Killock, Sian Gale o’r undeb darlledu BECTU a Robin Owain o Wikimedia.

‘Rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu’

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n rhaid meddwl o’r newydd ynglŷn â sefyllfa darlledu yng Nghymru. Mae’r ffordd mae pobl yn defnyddio’r cyfryngau, a natur y ‘llwyfannau’ maen nhw’n eu defnyddio, yn newid yn gyflym, ac mae’n rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr oes ddigidol sydd ohoni.

“Rydyn ni o blaid creu darlledwr newydd –  neu ddarparydd fel sy’n fwy cywir i’w alw – fydd yn barod ar gyfer yr oes aml-blatfform.”

Gan fod pwerau newydd yn dod i’r Cynulliad, medd y mudiad y gallai treth o’r fath gael ei godi ar lefel Gymreig, Brydeinig neu Ewropeaidd a gallai’r darparydd Cymraeg newydd fod o fudd i S4C a Radio Cymru.