Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru  wedi cyhoeddi manylion cytundeb newydd gyda BT gyda’r bwriad o sicrhau  y bydd 96% o gartrefi a busnesau Cymru yn gallu manteisio ar fand eang y genhedlaeth nesaf erbyn diwedd 2015.

Dyma fydd y prosiect mwyaf o’i fath yn y DU a bydd yn sicrhau bod Cymru ar y blaen ym maes band eang ffibr, meddai Carwyn Jones.

Fe fydd y prosiect yn defnyddio cyllid cyhoeddus a chyllid preifat i sicrhau y gall rhannau o’r wlad, nad oes cynlluniau masnachol ar eu cyfer, fanteisio ar fand eang ffibr.

Bydd y band eang ffibr newydd yn sicrhau cysylltiad sydd tua 15 gwaith yn fwy cyflym na’r cysylltiad sydd i’w gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Gall band eang cyflym iawn sicrhau cysylltiad hyd yn oed cyflymach os bydd angen hynny ar fusnesau.

Fe fydd yn golygu bod y prosiect, a fydd yn amodol ar gymeradwyo cymorth gwladwriaethol a chymorth ar gyfer prosiectau mawr, fod tua £425 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn band eang ffibr yng Nghymru.

Bydd BT yn creu 50 o swyddi newydd ac yn cyflogi 100 o brentisiaid newydd. Bydd y prosiect hwn hefyd yn diogelu 320 o swyddi presennol. Bydd BT hefyd yn cynnig profiad gwaith i 900 o bobl ifanc. Gallai hyd at 2,500 o swyddi llawn amser ychwanegol hefyd gael eu creu ar draws economi Cymru yn y dyfodol.

Mae’r  cytundeb heddiw yn mynd lawer pellach na tharged Llywodraeth y DU o sicrhau y gall 90% o boblogaeth y DU fanteisio ar fand eang mwy cyflym, yn ôl Carwyn Jones.

‘Trawsnewid y ddarpariaeth o fand eang’

Dywedodd y Prif Weinidog:  “Dyma gytundeb eithriadol o bwysig i Gymru. Bydd ein partneriaeth â BT yn sicrhau nad ceisio dal i fyny â’i chymdogion y mae Cymru eithr mynd gam ymhellach a sicrhau y bydd eraill yn awyddus i ddilyn ei thrywydd.

“Bydd y prosiect yn trawsnewid y ddarpariaeth o fand eang ar draws Cymru ac yn sicrhau y bydd busnesau lleol yn datblygu’n fusnesau byd eang.

“Bydd y prosiect o fudd enfawr i’r degau ar filoedd o fusnesau lleol ar draws Cymru. Bydd yn helpu i sicrhau bod cwmnïau’n aros yng Nghymru a bydd hefyd yn denu math gwahanol a mwy amrywiol o gwmnïau uchel eu gwerth sy’n prysur dyfu ar draws ein holl sectorau allweddol.”

‘Cymru ar flaen y gad’

Ychwanegodd Liv Garfield, prif weithredwr Openreach, sef busnes rhwydwaith lleol BT a fydd yn gweithredu’r seilwaith:

“Bydd y prosiect hwn yn helpu i sicrhau bod Cymru ar y blaen ym maes band eang. Cymru fydd un o’r gwledydd sydd â’r cysylltiad gorau yn y byd a bydd ar flaen y gad. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth ysbrydoledig iawn a bydd yn sicr yn dwyn ffrwyth o safbwynt twf yr economi. Bydd y prentisiaethau a’r profiad gwaith y byddwn yn eu cynnig yn sicrhau bod band eang y genhedlaeth nesaf yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr.”