Pedia Trefynwy - Llun: Wicipedia
Mae’r oes ddigidol yn cyrraedd carreg filltir newydd yr wythnos hon wrth i Drefynwy ddod yn dref Wicipedia gyntaf y DU – a’r byd –  Ddydd Sadwrn.

Mae Wikimedia UK, yr elusen sydd yn hyrwyddo Wicipedia a’i chwaer brosiectau yn y DU, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â thref Trefynwy a Chyngor Sir Fynwy ar y prosiect unigryw hwn a elwir Pedia Trefynwy.

Mae’r prosiect Pedia Trefynwy wedi bod yn gweithio i greu fersiynau amlieithyddol o dudalennau Wicipedia am bob lle, person, arteffact, planhigyn ac anifail nodedig yn Nhrefynwy ac yn galluogi defnyddwyr ffonau symudol yn y dref i gael mynediad iddynt ar unwaith trwy osod dros fil o godau QRpedia mewn lleoliadau allweddol. Cynhelir y dathliad cyhoeddus ar 19 Mai.

Dywedodd Roger Bamkin, Cadeirydd Wikimedia UK: “Rydym wrth ein bodd mai Trefynwy fydd tref Wicipedia gyntaf y byd. Mae safon a nifer y cynnwys Wicipedia yn ymwneud â Threfynwy yn eithriadol gan adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol, hanesyddol a naturiol gyfoethog y dref.”

Daeth trigolion y gymuned leol, busnesau a gwirfoddolwyr ynghyd â chymuned Wicipedia i greu cannoedd o erthyglau newydd ar Drefynwy mewn 26 o ieithoedd (cynnwys Cymraeg) yn ogystal â gwella cannoedd o erthyglau eraill.

Meddai John Cummings, arweinydd lleol y prosiect a pherson Wicipedia preswyl y Cyngor: “Nod Wicipedia yw gweithio i rannu gwybodusrwydd â phawb. Mae Pedia Trefynwy wedi dangos bod modd ymgasglu trefi cyfan i gyfrannu at yr ymdrech hon”.

Mae dod yn dref Wicipedia gyntaf y byd wedi denu nifer o fanteision ar gyfer Trefynwy yn cynnwys rhoi hwb i dwristiaeth a busnesau lleol.

Dywedodd Kellie Beirne, Prif Swyddog Adfywio a Diwylliant Cyngor Sir Fynwy:

“Y mae yn wastad wedi bod yn hysbys ledled y DU fod Trefynwy yn lle gwych i ymweld ag ef a gwneud busnes. Sylweddolwyd yn gyflym iawn bod croesawu technoleg a phrosiectau cymunedol byd-eang gwych fel hyn o fudd i bawb yn ardal Sir Fynwy ac rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o rywbeth mor ddyfeisgar, creadigol ac sydd yn edrych ymlaen”.

Ers ei gychwyn, y mae’r prosiect wedi bod yn destun diddordeb byd-eang dwys ac y mae’r cyfryngau o bob un o’r pum cyfandir wedi adrodd arno, yn rhannol, o ganlyniad i’w symlrwydd. Y symlrwydd hwn sydd yn sicrhau bod modd ailadrodd y prosiect ym mhob tref, dinas a phentref o amgylch y byd sef ffaith yr oedd Roger Bamkin o Wikimedia yn awyddus i’w phwysleisio.

Meddai Roger: “Rydym wedi dangos yn Nhrefynwy mai’r unig beth sydd ei angen yw ychydig o greadigrwydd, egni a chydweithrediad i roi tref ar y map a’i chyflwyno i gynulleidfa o 480 miliwn o bobl y mis. Efallai mai Trefynwy yw’r dref Wicipedia gyntaf ond rydym yn gobeithio y bydd llawer, llawer mwy i’w dilyn”.