Mae’r awdur a’r colofnydd dadleuol, Julian Ruck, yn dweud ei fod wedi dileu ei gyfrif Twitter ei hun o’i wirfodd – wedi straeon ei fod wedi ei wahardd o’r wefan.

“Mi wnes i ddileu’r cyfrif o fy ngwirfodd,” meddai wrth golwg360. “Oeddwn i ond wedi ei ddefnyddio am gwpwl o wythnosau, [i hyrwyddo] llyfr ac yn y blaen.”

Daw’r sylw yn sgil post Twitter gan yr actor, Alun Saunders, sydd yn awgrymu bod yr awdur wedi’i wahardd o’r wefan.

Roedd Alun Saunders wedi cwyno wrth Twitter am gyfrif Julian Ruck, ac mi ymatebodd y wefan trwy nodi bod y cyfrif yn gweithredu “yn groes” i’w rheolau. Dyw cyfrif Julian Ruck ddim yn bodoli bellach.

Lleisio barn

Llwyddodd Julian Ruck i godi sawl gwrychyn ym mis Awst, yn dilyn ei ymddangosiad ar Newsnight lle bu’n trafod y cwestiwn: “A ydi’r Gymraeg o help neu’n hindrans i’r genedl?”

Ac, ar ddechrau’r mis hwn trodd at Twitter i leisio ei farn ymhellach gan nodi bod “rhagwelediad plwyfol cefnogwyr yr iaith Gymraeg yn arswydus”.