Sut mae crynhoi newyddion wythnos gyfan i ddim ond chwarter awr o becyn?

Yr wythnos hon, mae’r gymysgedd yn cynnwys:

– sylwadau’r newyddiadurwr Huw Edwards yng Ngwyl Inc, Caernarfon am atebolrwydd gwleidyddion Bae Caerdydd;

– yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn trafod gwendidau Mesur Cymru;

– cynlluniau’r gwr busnes, Gari Wyn, i adfywio pentre’ yng Ngwynedd wrth brynu’r dafarn yno;

– a merch 16 oed a ddaeth o Rwsia i Gymru heb air o Gymraeg dair blynedd yn ol, yn llwyddo efo A*;

– ynghyd â rhoi o hoff gerddi The Welsh Whisperer, Lisa Angharad ac Yws Gwynedd, i nodi Diwrnod Barddoniaeth y Byd.

Mae modd gwrando ar y cyfan yn y clip yma: