Daf Prys
Daf Prys fu’n clocio’r oriau ar gêm newydd Destiny, ond oedd e werth ei amser?

Glywoch chi ‘run yna am y bachgen oedd yn galw ‘blaidd’? Dydd ar ôl dydd ar ôl dydd, ‘blaidd!’ ‘blaidd!’ ‘blaidd!’ ‘blaidd!’.

Wel mae Bungie wedi bod yn gwneud hwn, drwy ei marchnata, am Destiny. Ers ei gyflwyniad i’r byd yn Ebrill 2010, mae Bungie (y datblygwyr) ac Activision (y cyhoeddwyr) wedi bod yn llithro bach o Destiny fewn i goffi pawb.

Ond yn lle cael ei anwybyddu fel bachgen y blaidd druan, mae niferoedd anhygoel wedi prynu’r gêm. A beth sy’n syfrdanol am hwn?

Y ffaith fod dim un adolygiad llawn wedi ymddangos erbyn dyddiad agoriadol y gêm. A dyna fo wir, dyna stori gêm ddiweddaraf Bungie. Marchnata mawr, gêm fach.

Mae adolygu’r peth yn anodd gan fod y gêm wir ond yn dod yn fyw wedi ei gwblhau. Peth od i sgwennu, ond mae ‘na rhywbeth digon od am Destiny hefyd. Ac am enw ‘wmff’ ynde, Dessstinnyyyyy, efo jazz hands.

Adolygiad Fideo Wyth Daf Prys o Destiny:

Halo eto?

Hoffwn wedi bod yna yng nghyfarfod cyntaf Bungie ar ôl gwerthu Halo i Microsoft.

‘Iawn de, unrhyw syniadau?’

‘Gallwn ni neud Halo, ond esgus fod e’n MMO?’

‘Ar ‘i phen myn diain, ar ‘i phen – rhywun cal bois Activision ar y ffôn!’

Hawdd i fi neud hwyl am ben sut mae’n edrych wrth gwrs, ond dyna’n union sut mae’r sefyllfa i’w weld, Halo arall ond efo chroen dipyn bach yn wahanol.

A pham lai, wir, mi oedd Halo yn anferthol. Ond mae ‘na gymaint o Halo yn Destiny, syniadaeth o filwr arwrol i achub y ddynol ryw, cyfaill bach robotaidd, gelyn aml-ranc efo AI sy’n dweud wrthyn nhw wneud un peth, cuddio tu ôl carreg. Mae hyd yn oed naid ‘floaty’.

Ond falle fi wedi neidio’n rhy bell ymlaen fan hyn, falle fod ’na rhai ohonoch chi heb brofi Destiny, falle fod ’na rhai heb brofi Halo!

Wel i grynhoi, gêm saethu yw Destiny, a chithau’n gweld trwy lygaid eich cymeriad wrth grwydro amgylchedd y gêm, ond eich bod yn rhannu’r byd efo gemyddion eraill achos taw go iawn, MMO yw Destiny.

Dyfodol dychmygol

Dyma’r sefyllfa, yn y dyfodol mae’r ddynol ryw wedi datblygu i fodoli ar blanedau di-ri yn ein system solar fach ni, wedi troi’r blaned Gwener i fod yn fyd jyngl, gorsafoedd ymchwil ar ein lleuad, dinasoedd ar Fawrth.

A beth yw esboniad ein hesblygiad? Ymdrech a dyfal barhad? Canrifoedd o ymchwil ac ariannu prosiectau arall fydol? Na. Dim o gwbl. Cwrdd ag alien a fe’n sibrwd y cyfrinachau yn ein clustiau.

Dim alien arferol, siâp pêl arno, a hwnnw’n bel anferthol milltiroedd ar draws. Bydd John Charles dal wedi clirio’r peth … yn anffodus dyw’r parti ddim yn parhau, mae ‘na idiom dda am Roegwyr ac anrhegion, ac mae’r ddynol ryw yn cael ei wthio nôl at ddarn bychan o’r Ddaear, achos mae gan yr alien yma, The Traveller i roi ei enw cywir, ambell elyn.

Stori wan

A phan dw i’n dweud ambell elyn dw i’n golygu mwy neu lai pawb arall sy’n byw yn y Milky Way. Pob planed ni’n teithio iddo yn ystod y gêm mae ‘na rhywun efo ‘bach o bîff’.

Dy’n nhw ddim yn hapus o gwbl. Pam? Dim syniad. Be mae’r boi ‘ma wedi neud bod pawb mor grac? Does dim llawer o sôn am hwnna. Does dim llawer o sôn am ddim byd efo’r stori; pwy yw’r gelynion? Beth maen nhw’n neud? Lle mae’r Traveller wedi dod ohono? Dal, dim syniad. Dim o gwbl.

Ac mae’r sgwennu, yn gyffredinol, yn sâl. Felly ymladd mae person yn neud yn Destiny. Llawer iawn o ymladd… waldio boi fan hyn, grenade fan draw, reifflen bach i dîn rhyw foi fan yna.

Mwy neu lai yn ddi-stop. Mae’r profiad yn un llym. Mynd nôl dro ar ôl tro i’r un llefydd, aildroedio’r un amgylchedd, gan taw ardaloedd bychan iawn sy’n ymddangos ar y planedau yma. Mae fel google earth ond yn dangos Aberdaugwesyn.

Wedi dweud hwnna i gyd ’dwi wedi chwarae (yn ôl bungie.net) 62 awr o’r gêm hyd yn hyn. Felly’r cwestiwn yw, sut? Sut mae person yn dod o hyd i’w hun mewn sefyllfa ble mae stori ac ardal gêm yn ddigynnwrf, ond wedi treulio dros ddeuddydd yn ei fyd?

Dau beth sydd wedi fy nal, gweithred gêm lyfn (o mor llyfn – fel croen hyfryd Mari Lovgreen) ac elfennau RPG.

Y stwff da

Y peth cyntaf ’na, gweithred gêm. Dychmygwch garamel ar haenen o fahogani, yn gorffwys ar goesau Iolo Williams sy’n ymlacio ar wely o bantherod. Smwwwwwwwwdddddddddddd. Llyyyyyyyyyyyyyfn. Perffaith, jyst perffaith.

Teimlad y cymeriad yn eich llaw, dwyster a dawns a’i ymddygiad wedi’i wireddu mewn modd synhwyrus a synhwyrol. Ac mae’r ddealltwriaeth yna’n unfryd, os oes iaith ‘gamepad’ ynddoch chi yna mi fyddwch yn gwybod yn union beth i neud yn y gêm, o’r eiliad cyntaf un. Mae’r weithred yn llifo’ch gwythiennau.

Ac os taw’r weithred gêm lyfn sy’n dal eich sylw yn yr eiliadau agoriadol yr ail beth yna, yr elfennau RPG sy’n eich cloi i’r gêm.

Does dim byd syfrdanol am y system datblygu cymeriad; mae i’w gweld mewn gemau di-ri: profiad, dod o hyd i eitemau ac arian, defnyddio elfennau i wella eich eitemau ayyb, ond mae’n system ddigon cadarn, sydd yn ei dro mewn deuawd efo’r profiad gêm wych.

Gludwch hwn i’r syndod o chwarae gêm saethu person-cyntaf a dw i’n amau fod e mor syml â hynny. Mae’n gweithio i Halo, ac mae’n gweithio i World of Warcraft.

Gwerth y 62 awr?

Mae camau gwag yn sicr, er enghraifft mae’r gêm yn eich gosod fel rhyw fath o arwr unigryw i achub ein bodolaeth.

Da ni’n gyfarwydd â syniadaeth llyfr Joseph Campbell The Hero with a Thousand Faces, a pam fod bod yn unigryw o fewn stori ehangach yn bwysig i unrhyw fytholeg, ond wrth grwydro bydoedd Destiny chi’n gweld eich cyd-chwaraewyr yn trotian pasio gan dorri unrhyw ddealltwriaeth eich bod yn orchfygol dros bawb a phopeth.

Os mae hwn yn rhan o’r profiad yna pam ddim deall ei effaith a siapio’r stori o’i gwmpas.

Ond mae llawer o hwyl i’w canfod wrth ddod ar draws chwaraewyr eraill, er enghraifft mae Elidir Jones wedi bod yn ymuno efo fi am ambell dro, ac mewn sawl ffordd yn torri fy mhwynt cynharach taw ond paffio yw Destiny.

Wel mae o, ond hefyd, medrwch ddawnsio. Llawer o ddawnsio (gwelwch y fideo), a chreu sefyllfaoedd digon diddorol efo gemyddion eraill y byd boed yn yr hwb cymdeithasol neu yn crwydro’r ardaloedd eraill.

Na’i adael chi ar un nodyn. 62 awr. Digon o brawf i mi fod gêm daclus dros ben fan hyn, a bod dyfodol disglair eto i Bungie.