Catrin Griffiths sy’n trafod ei sialens o ddechrau menter newydd ar gyfer partïon …

Pan soniodd Dan Atkins am y tro cynta’ am ei syniad ar gyfer ‘Cardiff Geek Party’, do’n i ddim yn  siŵr iawn be i feddwl.

Mae’r Cardiff Geek Party fusnes sydd yn cynnig parti gyda thwist, lle mae rhywun yn gallu llogi consoles, gemau a telis am y noson.

‘Da ni yna hefyd i gynnig ‘chydig o help, cyngor a hanes, ac mae gennym ni gasgliad da o gemau ar gyfer pob console, o’r Spectrum i’r Snes, i’r Commodore 64 a Lynx Atari (fel rhan o’r profiad parti mi fyddwn ni hefyd yn cynnig party bags, lifesize cutouts o Sonic a Mario ac addurniadau di-ri!)

Wrth gwrs mod i’n cofio chwarae Sonic ar y Mega Drive (yn enwedig y Casino Act, y bownsian ‘na i gyd!), ac mi oedd cymeriad Lara Croft yn Tomb Raider ar y PC yn agoriad llygaid (er mod i ’di treulio LOT gormod o amser yn yr olygfa ‘hyfforddi’ – neidio oddi ar dop y grisiau a ballu!)

Ond a fyddai’n bosib creu busnes allan o’r holl beth?

Camau cyntaf

Wel erbyn hyn, mi rydan ni wedi cael ein ‘parti’ cyntaf (yn y Comic Con yn Nos da, Caerdydd) ac mi roedd o’n lot o hwyl!

Doedd gosod y pethau fyny ddim fel petai’n rhy anodd – roedd gwglo am fusnesau tebyg yng Nghaerdydd wedi dangos nad oedd dim byd tebyg ym Mhrydain (heblaw am gaffi ym Mryste).

Roedd Dan hefyd wedi bod yn casglu hen gonsoles a gemau ers rhai blynyddoedd felly doedd na’m angen gwario ffortiwn. Roedd cwrs busnes wythnos wedi helpu lot hefo pethau fel yswiriant, treth a sut i agor cyfrif banc busnes hefyd.

Yn ogystal, roedd Dan wedi gweithio i Microsoft am dros 10 mlynedd yn Nulyn (Gwyddel pur!) …

O ran galw am y busnes, roedd Dan a finnau wedi meddwl am dri chategori o gynulleidfa – myfyrwyr, partis Dolig gwaith, a’r rhai oedd yn eu 20au hwyr a 30au cynnar oedd yn cofio chwarae’r gemau am y tro cynta’.

Mae nostalgia i’w weld yn fusnes mawr y dyddiau ‘ma – o’r ffilmiau fel Ghostbusters a Star Wars sydd yn cael eu hail-rhyddhau neu ail-greu – ac mae’r hen ddyddiau i’w weld cymaint gwell.

Ac erbyn hyn mae hyd yn oed meddwl am y 90au yn gallu annog rhywun i fod yn nostalgic dros ben – yr union amser a ryddhawyd y Sega Mega Drive, y Commodore 64 a’r Gameboy wrth gwrs. Er mor sinigaidd yw’r syniad, mae ein partis yn apelio at yr union gynulleidfa yma.

Caffi i’r geeks?

Ond ar ôl dechrau tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol a’n parti cynta’ mae’n amlwg bod ‘na sawl grŵp arall ‘da ni ddim hyd yn oed wedi ystyried, merched er enghraifft.

Mae canran uchel o’n dilynwyr ar Facebook er enghraifft yn ferched … a beth am bartis i blant? Ble mae’r rhieni yn dysgu eu plant y math o beth roedden nhw yn chwarae yn eu plentyndod? ‘Da ni dal yn meddwl am sut i farchnata ar gyfer y cynulleidfaoedd targed yma.

Ar hyn o bryd, ‘da ni braidd yn rhy brysur i feddwl gormod am y dyfodol, ond mae hi’n freuddwyd ar Dan i gael caffi lle mae’r pethau yma i gyd ar gael mewn un lle – grêt o syniad a fydd yn sbario iddo fo orfod llwytho a dadlwytho’r holl stwff bob tro!

Beth bynnag a ddaw, mi rydan ni yn gobeithio y bydd Cardiff Geek Party yn gyfle i bawb fod yn ‘geek’ am y noson, i chwarae gemau roeddech chi’n chwarae yn blentyn ac i gael parti ’gwahanol’ – gan gynnwys cystadlu yn erbyn eich ffrindiau.

Bwriad Cardiff Geek Party yn y bôn yw gwneud yr un math o gyfraniad a phethau fel sesiynau digidol Gŵyl Golwg, a chynnig gwasanaeth dwyieithog fydd yn annog pobol i chwarae yn y byd digidol wrth allu cyfathrebu yn y Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan www.geek-party.co.uk – fe allwch hefyd ddilyn Cardiff Geek Party ar Facebook (Cardiff Geek Party) a Twitter (@CardiffGeek).