Daf Prys yn pendroni
Daf Prys sy’n holi a oes modd ail-wneud clasur o’r gorffennol …

Mae’n ddigon hawdd edrych yn ôl gyda sglein ffug y gorffennol ar bethau’r oes a fu a meddwl bod pethau’n gymaint gwell bryd hynny, yn ôl Daf Prys.

Ond boed o’n Star Wars, C’mon Midffild neu’n gêm fwrdd yr Eisteddfod (wel, falle ddim), does dim pwynt ceisio ail-greu’r clasuron hynny – dydyn nhw byth am gymharu â’r gwreiddiol.

Wel hynny yw, nes bod blogiwr digidol golwg360 yn cael cip ar ambell i gêm gyfrifiadurol o’r gorffennol fel Elite a Syndicate.

Yn sydyn reit, mae Daf fel petai’n reit hoff o’r remakes yma … ac fe allwch chi wylio Fideo Wyth diweddaraf Daf Prys isod.

Ar y diwedd mae Daf hefyd yn ateb rhai o’r cwestiynau a ofynnwyd iddo ar ôl ei Fideo Wyth fis Ebrill: