Daf Prys
Daf Prys sy’n mynd yn ddamcaniaethol wrth drafod y byd ‘ffantasi’ mewn llyfrau a gemau …

Er mod i’n mwydro am gemau cyfrifiadurol, dwi yn cael amser i ddarllen ambell i lyfr.

Ac er mod i’n casáu mynd yn theoretical i gyd am gysyniadau weddol syml mae dwy gêm fawr 2013 wedi peri i mi godi ael, yn enwedig gan fod y drafodaeth y maen nhw wedi codi yn debyg iawn i sgwrs a gafwyd mewn tafarn yn Rhydychen nôl yn y tridegau.

Yn anffodus, mae’r pwynt dwi am wneud yn gofyn i chi fod rhywfaint yn gyfarwydd â gwaith J.R.R. Tolkien, C.S. Lewis, Ken Levine a Neil Druckman. Hynny yw, Lord of the Rings, Chronicles of Narnia, The Last of Us a Bioshock Infinite (neu unrhyw un o’r gemau Bioshock).

Cewri’r cloriau

Lord of the Rings a chyfres Narnia, dwy o gampweithiau mawrion yr ugeinfed ganrif gynnar. Dau fyd ‘ffantasi’ cynhwysfawr, dau gysyniad hollol  groes.

Beth sy’n ddiddorol i fi yw sut ddaeth y ddau fyd i fodoli, a pha fath o syniadau oedd ynghlwm a’u cread. A beth sydd hyd yn oed yn fwy diddorol yw bod yr un sgwrs yn union yn bosib am Bioshock a The Last of Us, campweithiau mawrion ym mlynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar hugain.

Cyd-ddigwyddiad? Wel, ie, siŵr o fod. Ond mae cymharu fel hyn dal yn ddiddorol, a gweld sut mae meistri yn eu maes yn gweithio, ac efallai bod adlais yna.

Ffantasi ‘beth petai’

Ta waeth, mae byd Narnia wedi ei seilio ar premise narrative ‘what if?’, sy’n esbonio pam fod Siôn Corn yn medru bodoli yno. ‘What if’ pe bai Siôn Corn yn ymddangos nawr ac yn dod ag anrhegion anhygoel o beryglus i blant ifanc?

Rhagflas o ffilm cyntaf Narnia:

)

Yr unig fecanwaith sydd ei hangen er mwyn dod a rhywbeth i fodolaeth o fewn y byd yw gofyn y cwestiwn bach yna – ‘beth petai’ dyfrgi yn medru siarad, a pwff, ’na fe, ‘da chi gymeriad dyfrgi. Beth petai’r ‘white witch’ yn gwisgo nipple tassles a top hat yn unig? Ai dim ond fi sy’n gofyn hwnna? Ah.

Yn groes i hwn mae byd Middle Earth, byd ‘high’ fantasy, gyda rheolau pendant wedi ei osod o’r cychwyn un. Mae’r byd wedi ei boblogi gan y bois ‘yma’, ac maen nhw fel ‘hyn’; gan ‘rhain’ ac maen nhw yn ‘hwn’; ‘rheina’ y ‘caridỳms’.

Trailer ffilmiau Lord of the Rings:

)

Syniadau pendant am reolau’r bydysawd a does dim croes beillio. Mae’r cysyniadau athronyddol wedi eu hen ferwi, a dwi ddim yn ymestyn y pwynt fan hyn, ond be’ dwi am daro golwg arno yw’r cysyniad fod dau gawr yn gweithio yn eu maes, yn creu bydoedd ffantastig, gyda sawl peth yn debyg ar yr wyneb, ond go iawn yn mynd wrth eu crefft mewn ffyrdd hollol wahanol.

Yr unig beth sydd wir yn clymu’r ddau beth at ei gilydd yw bod nhw wedi ei gyhoeddi ar ffurf llyfr.

Patrwm y gemau

Nid llyfrau yw Bioshock na The Last of Us, o bell ffordd. Gemau cyfrifiadur yw’r rhain, a gall y straeon yma ond gael eu dweud trwy gyfrwng gêm gyfrifiadur.

Gyda’r cymeriadau yn cael eu dal yn y gofod tri chwarter o’m blaen, yn llythrennol ar y sgrin ac yn haniaethol yn naratif dychmygol ein perthynas ffug efo nhw, mae lle i lenwi o ran creu stori a’u hofnau o un eiliad i’r llall. Ond go iawn, o fewn cyffiniau’r strwythur, dim ond dyfalu y medrwn ni wneud at beth sy’n gwthio’r cymeriad i wneud beth maen nhw yn gwneud.

Ni sy’n eu llywio ac yn eu rheoli, ond pypedwyr ydyn ni fan hyn yn hytrach na hypnotyddion, y corff yn bwrw’r naratif ymlaen i esgyn  y cwlwm nesaf yn y stori, a hwnnw wedi ei osod yn weddol gadarn gan yr auteur.

Ac am auteurs. ‘Sdim angen edrych llawer pellach na Ken Levine na Neil Druckman am gewri diwylliant modern. A dyna mewn gwirionedd pam ydw i’n gwneud y pwynt yma, mae cysyniad ‘what if’ C.S. Lewis yn mynd law yn llaw efo byd anhygoel Bioshock.

‘Beth petai’ dinas yn hofran yn y cymylau uwchben UDA yn 1912, ‘beth petai’ galluoedd anhygoel ar gael drwy yfed ffisig.

Fideo Bioshock (rhybudd – cynnwys anaddas i blant):

)

Tra bod cadarnle yn naratif Neil Druckman, sef bod apocalypse wedi taro poblogaeth y byd megis afiechyd, gan olygu fod hwn, hwn a hwn yn digwydd (dwi ddim eisiau gosod spoilers o unrhyw fath), sy’n adlewyrchu byd llyfn Tolkien.

The Last Of Us (rhybudd – cynnwys anaddas i blant):

)

Ac os ‘da ni’n medru trafod gemau cyfrifiadur yn y math olau, yna gall hwn ond fod yn beth da.

Gallwch drydar at Daf ar @dafprys.