Margaret Thatcher
Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi gorfod cynnig taro bargen gyda lladron sy’n dwyn lluniau o’i annwyl Maggie Thatcher.

Yn ôl Andrew R T Davies, mae rhywun yn y Cynulliad wedi bod yn dinistrio lluniau cyn-Brif Weinidog bob tro y bydd yn eu rhoi nhw ar ei ddrws.

Er mwyn taro’n ôl, roedd wedi bod yn gosod mwy a mwy o luniau ohoni … ond mae’r rheiny wedi diflannu hefyd.

Bellach, mewn e-bost o swyddfa’r AC, mae’n cynnig cyfaddawd – fe fydd yn bodloni ar godi un llun lliw o Margaret Thatcher, ar yr amod bod hwnnw’n cael llonydd.

Os na fydd, fe fydd yn mynd yn ôl i osod llwyth o luniau ohoni, a’r rheiny’n rhai mwy.

Bygwth mynd at yr awdurdodau

Os bydd y fargen yn methu, mae yna awgrym ar ddiwedd neges yr AC tros Ganol De Cymru y bydd yn rhoi’r mater yn nwylo’r “awdurdodau.”

“Ro’n i’n meddwl ei bod yn eitha’ aeddfed a deche fod cytundeb anysgrifenedig i’w weld yn dweud nad oeddech chi’n difwyno neu ddwyn lluniau oddi ar ddrysau swyddfa pobol eraill,” meddai yn ei neges.

Yn ôl AC arall, Peter Black, sydd wedi cyhoeddi’r neges ar ei flog, mae’r troseddu gwrth-Thatcheraidd yn arwydd fod pethau’n twymo yn y Cynulliad wrth i’r etholiadau nesáu.