Ieuan Wyn Jones - perfformiad gorau ers amser
Naomi Williams o Positif Politics sy’n crynhoi prif bynciau llosg yr wythnos ym Mae Caerdydd.

Cyflwr gwael yr economi oedd pwnc llosg yr wythnos ym Mae Caerdydd a chafwyd cryn sylw i ddangosyddion economaidd gwael.

Daeth hyn i’r amlwg yn arbennig yn ystod cwestiynau’r Prif Weindiog yn  siambr y Cynulliad prynhawn dydd Mawrth pan gafwyd gwrthdaro rhwng Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.

Ymosododd Ieuan Wyn Jones ar yr hyn roedd yn ei weld fel diffyg gweithredu economaidd ei gyn fos, gan ddweud mai “yr unig ganlyniad gallem ei gyrraedd bellach o’ch analluedd i weithredu yw eich bod wedi penderfynu eistedd yn ôl, gan adael i’r argyfwng economaidd cael y gwaethaf arnom wrth feio’r Torïaid am bopeth.”

Roedd y Prif Weinidog yn amlwg wedi ei gythruddo pan atebodd “ym 1983, cyhuddwyd y Blaid Lafur o greu’r nodyn hunanladdiad hiraf yn hanes ar gyfer yr etholiad yno, ond Plaid Cymru gyhoeddodd yr un byrraf yn ystod yr etholiad diwethaf.”

Cyllideb heb gytundeb

Mae sawl sylwebydd wedi tybio bod y ddadl fywiog wedi tarfu ar unrhyw gytundeb clymbleidiol bosib rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Llafur ynglŷn â chefnogi cyllideb Llafur, ac fe roddodd y Western Mail sylw rhan sylweddol o’u papur dydd Mercher i’r ddadl.

Yn sicr, yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg wedi’r ddadl yw bod Plaid Cymru, efallai am y tro cyntaf ers yr etholiad, yn ymddwyn fel plaid wrth-bleidiol hynod flaenllaw.

Mae’n amlwg bod Ieuan Wyn Jones bellach wedi dygymod â’r siom o golli ei swydd Weinidogaethol ac wedi penderfynu gwrthwynebu’r Blaid Lafur ar ei delerau ei hun. Yn sicr, rydym wedi gweld ei wythnos a’i berfformiad gorau ers chwe mis.

Gresyn

Ac ar yr un adeg, ymddengys bod y Blaid Lafur wedi sgorio ’own goal‘ fel y daeth yr wythnos i ben.

Manteisiodd Plaid Cymru ar eu hymosodiad economaidd gan gyflwyno dadl lawn yn y Cynulliad ddydd Mercher. Wrth ymateb i’r ddadl, dywedodd y Gweinidog Busnes a Menter, Edwina Hart:

“Gai’i nodi fy mod yn siomedig pan ddarllenais y cynnig, ond wrth ystyried mai ‘gresynu’ oedd y gair defnyddiwyd, efallai ddylwn i ddefnyddio ‘gresynu’, oherwydd rydym oll yn gresynu sawl peth mewn bywyd.”

“Rydw i’n gresynu’r system gyfalafol, os hoffech fynychu gwersi hanes, efallai bod angen i mi fynd yn ôl at Karl Marx ac Engels a chawn drafodaeth am y materion hynny.”

Parrott yn ymuno â’r parti

Roedd y sylwadau yn adlewyrchiad o natur agored a phlaen y Gweinidog, ond mae llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr economi, Eluned Parrott, Aelod newydd sydd yn prysur ddod i’r amlwg, bellach wedi cael dweud ei dweud ac wedi condemnio’r sylwadau byrbwyll gan eu nodi fel wrth-gymhelliant i fusnes a buddsoddiant.

“Yn amlwg, mae hi wedi bod yn darllen gormod o’r ‘Morning Star’ a dim digon o’r ‘Financial Times’” meddai Parrott.

Er hynny, mae’n debyg buasai’n well gan y Gweinidog petai’r cyfryngau, ac eraill, yn canolbwyntio ar brif gyhoeddiadau eraill yr wythnos – yn benodol, yr hyn drafodwyd yn ystod cyfarfod Cyngor Adnewyddu’r Economi ddydd Mercher neu secondiad David Rosser, arweinydd uchel ei barch o CBI Cymru, i Lywodraeth Cymru am chwe mis.

Ond mewn wythnos llawn newyddion economaidd, nad oedd yn newyddion da bob tro, nid yw’n syndod bod rhai o’r prif gyhoeddiadau’r Llywodraeth wedi eu tanseilio.