Mae ymgeisydd Finn Gael Catherine Noone wedi ymddiheuro am alw Prif Weinidog Iwerddon Leo Varadkar yn “awtistig.”

Mewn datganiad gafodd ei ryddhau fore dydd Mawrth (Ionawr 28), dywed Catherine Noone ei bod hi’n “ymddiheuro ac yn tynnu fy sylwadau yn ôl.”

Yn ei sylwadau i’r Times, dywed: “Mae o’n awtistig, does dim amheuaeth ei fod o ar y sbectrwm. Mae o’n anghyfforddus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.”

Dywed Catherine Noone bod ei sylwadau yn “hollol annerbyniol”, a bod “yno ddim esgus am fy newis o eiriau, dwi wir yn ymddiheuro.” 

“Fydda i ddim yn gwneud unrhyw sylwad pellach,” meddai.

Gwnaeth hi’r sylwadau wrth ganfasio am yr Etholiad Cyffredinol sy’n cael ei gynnal yn Iwerddon ar yr wythfed o Chwefror.