Ifan Dylan sy’n edrych ar y seddi yng Nghymru y dylen ni fod yn cadw llygaid arnyn nhw yn yr etholiad. Heddiw, Bro Morgannwg…

Mae hi mor agos rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr mewn rhai etholaethau, nes ei bod hi’n ymddangos o leiaf, fel y gallai tuedd cefnogwyr traddodiadol Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, fod yn bwysig iawn.

Mae hyn yn amlwg yn sedd Bro Morgannwg, lle mae’r ddau brif ymgeisydd wedi galw am gael benthyg pleidlais y ddwy blaid lai.

Mae’r sedd yma yn cynnwys pentrefi cefnog ar gyrion Caerdydd, yn ogystal â thref glan môr Y Barri.

Llafur yw plaid mwyaf Y Barri yn draddodiadol, tref sydd â dylanwad dosbarth gweithiol cryf, yn sgil y dociau a’r diwydiannau cynhyrchu.

Ond mae’r Ceidwadwyr yn gryfach yn yr ardaloedd gwledig, ac mae’r sedd wedi newid dwylo yn weddol gyson.

Llafur sydd â’i gafael ar y sedd ar hyn o bryd. Ond dim ond 1,808 o fantais oedd gan John Smith dros Aelod Cynulliad Rhanbarth Gorllewin De Cymru, y Ceidwadwr Alun Cairns, yn etholiad 2005.

Roedd gan John Smith fantais o bron 5,000 o bleidleisiau yn yr etholiad blaenorol.

Doedd bron dim modd gwahanu’r ddwy blaid yn etholiadau Cynulliad 2007 chwaith. 83 o bleidleisiau oedd rhwng Llafur a ddaeth ar y brig, a’r Ceidwadwyr a ddaeth yn ail. Ond roedd bwlch o rai miloedd rhyngddyn nhw â Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y ddau etholiad.

Nid John Smith sydd yn sefyll y tro yma i’r Blaid Lafur, ond Alun Cairns sy’n sefyll eto dros y Ceidwadwyr, ac mae o’n weddol ffyddiog o gipio’r sedd eleni.

Alana Davies

Mae ymgeisydd newydd Llafur, Alana Davies, wedi galw ar gefnogwyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol i “fenthyg eu pleidlais” i Lafur, er mwyn “cadw’r Torïaid allan”.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd ei bod hi’n bendant taw ras dau geffyl yw’r sedd -rhyngddi hi ac Alun Cairns.

“Mae’n annhebygol iawn y bydd y pleidiau yma yn ennill,” meddai wrth sôn am Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac “mae ganddyn nhw fwy i’w ofni oddi wrth y Torïaid na’r Blaid Lafur”.

Dywedodd bod ei hymgyrch yn mynd yn dda, ac o siarad â phobol wrth ganfasio meddai, mae’r ymateb i’r Blaid Lafur “yn llawer gwell nawr na phan gefais fe newis i geisio am y sedd ym mis Medi.”

Dyw hi ddim yn credu bod cymryd lle John Smith yn anfantais, ac y gallai hyd yn oed fod o fantais, gan nad yw hi yn cael ei chysylltu â Senedd Llundain yn sgil helynt costau San Steffan.

Dywedodd hefyd nad oedd hi’n credu fod gan Alun Cairns lawer o fantais drosti am ei fod yn Aelod Cynulliad.

Mae Alun Cairns yn “aelod rhanbarthol” meddai, “dyw e ddim wedi cael ei ethol.”

“Dwi ar y llaw arall wedi cael fy ethol yn y gorffennol ar Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr,” meddai.

“Mae gen i brofiad o gynrychioli etholaeth.”

Alun Cairns

Ond mae Alun Cairns hefyd wedi galw ar gefnogwyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol i bleidleisio i’r Torïaid.

Wrth siarad efo Golwg360, honnodd ei fod o wedi cyfarfod etholwyr yn ystod yr ymgyrch sydd am wneud hynny.

Y rheswm meddai oedd bod pobol yn flin, â Plaid Cymru yn benodol, am ymuno â’r Blaid Lafur mewn clymblaid yn y Cynulliad.

Dywedodd fod pobol wedi dweud wrtho y byddent yn cefnogi’r Ceidwadwyr y “tro yma”, er efallai na fydden nhw’n gwneud hynny’r tro nesaf.

Honnodd ei fod o hefyd wedi dod ar draws llawer mwy o gefnogaeth i’r Ceidwadwyr nag arfer mewn llefydd sy’n draddodiadol yn cefnogi’r blaid Lafur, fel Y Barri.

“Agenda positif” sydd gan y Ceidwadwyr i’w gynnig meddai, ac y byddai ei blaid yn “symud Cymru ymlaen oddi wrth y blaid Lafur.

“Cymru yw’r wlad, neu’r rhanbarth tlotaf yn y Deyrnas Unedig” mynnodd. Fe fyddai’r Ceidwadwyr yn “defnyddio arian yn fwy effeithiol”, ac yn arwain Cymru i fod yn “llai dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus”.

Byddai’r Ceidwadwyr yn mynd ati i gael gwared â gwastraff ariannol gwasanaethau cyhoeddus, ychwanegodd.  Rydyn ni’n cynnig “agenda positif” ac yn “cynnig gobaith” meddai.

Yr ymgeiswyr am sedd Bro Morgannwg yn Etholiad Cyffredinol 2010

Ymgeisydd Plaid
Alun Cairns Y Ceidwadwyr
Alana Davies Llafur
Ian Johnson Plaid Cymru
Kevin Mahoney UKIP
Eluned Parrott Democratiaid Rhyddfrydol
Rhodri Thomas Y Blaid Werdd

Ffeithiau

  • Pwy enillodd etholiad 2005: Y Blaid Lafur – John Smith
  • O sawl pleidlais: 1,808
  • Nifer etholwyr yn Etholiad Cyffredinol 2005: 68,657
  • Y nifer a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2005: 47,324

Etholiad 2005

Plaid Pleidleisiau Canran o’r bleidlais
Llafur 19,481 41.2
Y Ceidwadwyr 17,673 37.3
Democratiaid Rhyddfrydol 6,140 13
Plaid Cymru 2,423 5.1
UKIP 840 1.8
Y Blaid Ryddfrydol 605 1.3
Plaid Sosialaidd Llafur 162 0.3