Mae cynghorydd sy’n cynrychioli ardal Swiss Valley ger Llanelli wedi gadael Plaid Cymru.

Dywed Jordan Randall, sydd wedi cynrychioli ardal Swiss Valley ers 2017, ei fod wedi ymddiswyddo am nad yw’n hapus gyda’r ymgeisydd seneddol sydd wedi cael ei ddewis y gynrychioli Plaid Cymru yno.

Honnai fod ei ymdrechion i leisio ei bryderon gydag arweinyddiaeth y blaid wedi cael eu hanwybyddu ac mai “vendettas personol yw’r peth pwysicaf i Blaid Cymru ar lefel lleol nawr”.

Mewn datganiad, dywed Jordan Randall: “Rwyf wedi fy siomi gan ddewis ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol. 

“Os yw’r blaid am neud cynnydd yn y dref, mae’n rhaid iddynt ddewis ymgeisydd lleol sy’n deall problemau dydd i ddydd rydym yn eu yn eu hwynebu yn ein cymuned”.