Mae cyn-arweinydd y blaid Geidwadol yn dweud y byddai’n dymuno gweld yr aelodau hynny o’r blaid a gollodd y chwip tros fater Brexit, yn cael eu derbyn yn ôl – os ydyn nhw’n cefnogi cytundeb diweddaraf Boris Johnson.

Mae’r Prif Weinidog yn ceisio annog Aelodau Seneddol i gefnogi ei gynnig olaf i wthio ei gytundeb trwy Tŷ’r Cyffredin.

Ond mae Boris Johnson wedi tynnu’r chwip oddi ar 21 o aelodau ei blaid wedi iddyn nhw bledleisio yn erbyn y llywodraeth yn San Steffan ar Fedi 3.

“Roedd y penderfyniad i dynnu’r chwip oddi arnynt yn gamgymeriad mawr,” meddai William Hague. “Ond nawr, fe ddylai’r sawl sydd yn pleidleisio o blaid y cytundeb gael eu croesawu yn ôl.

“Drwy gytuno i wneud hynny, mi all Boris Johnson lwyddo i gael cefnogaeth i Brexit cyfrifol, a chael aduniad o’r teulu Ceidwadol hefyd.”