Mae teulu o wledydd Prydain yn cael eu dal gan swyddogion mewnfudo America wedi iddyn nhw “groesi’r ffin” yn anghyfreithlon rhwng yr Unol Daleithiau a Chanada – er mwyn osgoi taro anifail gwyllt ar y ffordd.

Mae David Connors, ei wraig, Eileen a’u babi tri mis oed ill tri wedi’u harestio gan swyddogion mewnfudo; ynghyd â brawd David Connors, Michael, ei wraig Grace a’u efeilliaid dwyflwydd oed.

Dywed y teulu nad oedden nhw’n ymwybodol eu bod wedi croesi’r ffin.

Mae cyfreithiwr ar ran y teulu yn dweud eu bod wedi diodde’ “trawma” o ganlyniad i’r digwyddiad, mae hefyd yn honni bod y teulu wedi eu cam-drin tra yn y ddalfa.

Mewn ymateb, mae swyddog mewnfudo yn dweud fod honiadau o gamdrin yn “hollol ffals”.