Mae heddlu yng Ngogledd Iwerddon wedi dod dan ymosodiad gan bobol yn taflu bomiau petrol.

Daw hyn ar ôl i fom gael ei ddarganfod ar wal yn Strabane, County Tyrone fore dydd Sadwrn (Medi 7), ac mae grwp y New IRA wedi cael ei feio am y digwyddiad.

Dywed arweinydd plaid yr SDLP, Colum Eastwood fod “ymosodiadau cyson a creulon mae ein swyddogion yn eu dioddef wrth geisio diogelu ein cymunedau yn ffiaidd”.

Mae Aelod Cynulliad Sinn Fein, Karen Mullan, hefyd wedi ategu: “Does dim modd cyfiawnhau gweithredoedd sydd gyda’r unig bwrpas o geisio anafu pobl a gwneud y sefyllfa yn waeth i drigolion lleol sy’n ceisio byw eu bywydau, a dylai’r sawl sy’n gyfrifol stopio nawr.”