Mae Vaughan Williams yn dweud ei fod e hefyd wedi cyflwyno’i enw i gynrychioli Ynys Môn yn etholiadau nesaf San Steffan.

Fe oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn 2015, ac fe geisiodd am enwebiad y blaid yn Ynys Môn ar gyfer yr etholiad brys yn 2017 pan gafodd Ieuan Wyn Jones ei ddewis.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r cyn-newyddiadurwr Aled ap Dafydd hefyd ddatgan ei fwriad i sefyll.

“Dwi wedi rhoi f’enw ymlaen ar gyfer ymgeisyddiaeth Plaid Cymru dros Ynys Môn,” meddai Vaughan Williams ar ei dudalen Twitter.

“Mae’n hanfodol ein bod yn adennill Môn a sicrhau llais gref a phendant yn San Steffan!

“Fel brodor o’r ynys sydd bellach yn athro yn yr ysgol uwchradd yng Nghaergybi credaf fod gennyf lawer i gynnig.”