Mae Aled ap Dafydd, y cyn-newyddiadurwr a gafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Strategaeth Wleidyddol a Materion Allanol Plaid Cymru, wedi cyhoeddi ei fod e eisiau ennill sedd Ynys Môn yn etholiadau nesaf San Steffan.

Mae ei enwebiad wedi cael ei gefnogi gan Ieuan Wyn Jones, cyn-arweinydd y blaid a chyn-Aelod Seneddol y blaid yn yr etholaeth honno.

Mae’n dweud ei fod e eisiau “gwneud i Fôn gyfri”.

Yn ôl Aled ap Dafydd, mae’n gyfnod o gythrwfl gwleidyddol digynsail, ac mae angen “cyfathrebwr cryf a hyderus fydd yn gallu mynd â neges Môn i San Steffan”.

Y neges honno, meddai, yw fod “rhaid i’n heconomi a’n cymunedau gwledig gael eu gwarchod”.

Amlinellu gweledigaeth

“Mae gan y teulu hanes balch o wasanaeth cyhoeddus yn Ynys Môn,” meddai Aled ap Dafydd wrth ddatgelu ei weledigaeth.

“Cafodd fy nhaid, y Parchedig Meic Parry, ei eni a’i fagu yn Llanerchymedd.

“Am ddeng mlynedd, bu fy nhad Dafydd Whitall yn brifathro ysgol uwchradd fwyaf yr ynys, Ysgol David Hughes, a bu fy mam Bethan yn dysgu yn Ysgol Gyfun Llangefni.

“Gwn fod pobol Ynys Môn ar eu hennill pan fo ganddynt gynrychiolwyr Plaid Cymru ar bob lefel o lywodraeth.

“Mae gennym nawr Brif Weinidog byrbwyll a Llywodraeth Brydeinig ddinistriol sy’n gwybod dim a phoeni llai am Fôn a’i phobol.

“Mae’n hen bryd cael cyfathrebwr cryf a hyderus i fynd â neges Môn i San Steffan: mae’n rhaid gwarchod ein heconomi a’n cymunedau yn y cyfnod hwn o argyfwng.

“Mi weithiaf yn ddiflino i helpu i greu economi hyfyw sy’n cynnig llewyrch er mwyn i bob person ifanc gael y cyfle i aros ym Môn a chyfrannu i’w dyfodol.

“Mae’n hen bryd gwneud i Fôn gyfri yn San Steffan.”

Cefnogaeth gan Ieuan Wyn Jones

Mae Ieuan Wyn Jones yn dweud y byddai Aled ap Dafydd yn “ymgeisydd cryf” ym Môn.

“Gyda’i ddealltwriaeth ddwfn o wleidyddiaeth, ei allu diamheuol fel cyfathrebwr a’i frwdfrydedd, byddai Aled ap Dafydd yn ymgeisydd cryf ar gyfer etholaeth Ynys Môn.

“Ynghyd â’i gysylltiadau lleol, mae Aled y math o ymgeisydd sydd ei angen ar gyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru a Môn.”