Mae’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol o dan ymchwiliad am fethu â dilyn rheolau gwario yn etholiad cyffredinol 2017.

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol roedd problemau systemig yn y ffordd roedd y ddwy blaid wedi delio a’u henillion a hynny ar ôl iddynt gytuno i ymrwymo i wella i gydymffurfio a’r rheolau.

Mae’r cytundebau statudol yn gofyn i’r pleidiau i ymrwymo i gynnal gweithredoedd penodol mewn amser penodol i fynd i afael a’r broblem.

Drwy wneud hyn fe fydd y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn osgoi dirwy, ond bydd methiant yn galluogi’r ymchwiliad i gael ei hailagor.

“Rhaid i bleidiau gwleidyddol sy’n ymladd etholiadau ac yn gwario miliynau o bunnoedd yn ceisio perswadio pleidleiswyr i’w cefnogi sicrhau eu bod yn cyflwyno enillion gwariant cyflawn a chywir,” Dywedodd Louise Edwards, cyfarwyddwr rheoleiddio’r Comisiwn Etholiadol.

“Mae gan y Blaid Geidwadol a’r Democratiaid Rhyddfrydol hanes o fethu â gwneud hyn.”

“Yn hytrach na dirwyo’r partïon, rydyn ni wedi dewis gweithio gyda nhw i wella eu

cydymffurfiad trwy ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw wario eu harian ar wella systemau a hyfforddi staff.”