Cafodd trafodaeth Heriau’r Gymru Annibynnol ei chynnal gan Yes Cymru ar Faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Mawrth, Awst 6) mewn ystafell cymdeithasau llawn dop.

Yno roedd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, y cyn-Brif Weinidog Llafur, Carwyn Jones, Sion Jobbins o Yes Cymru, a’r dyn busnes Jeff Williams yn ystyried materion yn ymwneud ag annibyniaeth,  o dan arweiniad Beti George.

Dywedodd Liz Saville Roberts ei bod yn “ddiwrnod hanesyddol” gyda gwleidyddion y ddwy blaid sydd am drafod annibyniaeth, Plaid Cymru a Llafur, yn dod at ei gilydd.

Aeth y drafodaeth ymlaen am awr ac un o’r pwyntiau a wnaeth Liz Saville Roberts dro ar ôl tro oedd diffyg safbwynt gan y Blaid Lafur.

“Beth sy’n fy nharo i efo Carwyn Jones a’r Blaid Lafur ydi nad ydyn nhw’n deall ei bod hi’n iawn i siarad o blaid rhywbeth…” meddai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd.

“Mae ‘na orymdeithiau annibyniaeth wedi bod. Mae’r Blaid Lafur eisiau bod yn rhan ohoni. Dydyn nhw ddim eisiau cael eu gadael ar ôl.”

 “Ddim yn fater o eiriau cynnes”

“Mae ganddyn nhw hanes o wneud hyn, Ac wrth gwrs rŵan hyn hefo Brexit mae’r Blaid Lafur yn bodloni gyda bob dim ac yn siwtio beth mae pobol eisiau clywed –  o blaid neu yn erbyn Brexit,” meddai Liz Saville Roberts.

Mae’r Aelod Seneddol yn cyfeirio at 1979 pan na weithredodd Llafur i gefnogi datganoli, a’r effaith gafodd hynny drwy gydol yr 1980au.

“Os ydy Llafur eisiau bod yn rhan o hyn, dydi o ddim jest yn fater o eiriau cynnes ond fe fydd yn rhaid iddynt weithredu.”

“Os ydy o’n bwysig i’r  Blaid Lafur mae’n rhaid iddynt wneud mwy na jest siarad ond gweithredu yn ogystal.”