Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i graffiti gael ei chwistrellu ar ddrws ffrynt swyddfa Plaid Cymru yn nhref Caernarfon.

Mae llefarydd ar eu rhan wedi cadarnhau mai gweithwyr yn cyrraedd eu gwaith am 8yb heddiw (dydd Mercher, Ionawr 10) oedd y cyntaf i weld y gair ‘SCUM’ wedi ei chwistrellu ar y ddôr yn Stryd y Castell.

Y gred, meddai’r heddlu, ydi i’r fandaleiddio ddigwydd rywbryd nos Fawrth.

Mae rhai o staff Plaid Cymru wedi bod yn rhannu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r Aelod Seneddol, Hywel Williams, yn amddiffyn hawl ei staff i allu dod i’w gwaith heb deimlo dan fygythiad.

Yn ôl Hywel Williams, “gweithred o fandaliaeth ddi-bwrpas” yw’r graffiti, ac mae’r heddlu’n trin y digwyddiad “gyda’r difrifoldeb mae’n ei haeddu”.

“Mae’n bur debygol mai gweithred o fandaliaeth ddi-wrpas ydi hyn, ond dw i wedi fy sicrhau fod yr heddlu yn ei drin gyda’r difrifoldeb mae’n ei haeddu.

“Mae fy staff yn haeddu gweithio yn rhydd o unrhyw fygythiad ac ofn – yn union fel pawb arall. Dydi hi ddim yn dderbyniol disgwyl iddyn nhw wynebu y fath fygythiad.”