Fe allai Senedd Ieuenctid Cymru gyfrannu yn fwy at weithgarwch y Cynulliad, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru.

Yn debyg i’r Cynulliad mae gan y Senedd Ieuenctid 60 o aelodau – oll rhwng 11 ac 18 blwydd oed – a daethon at ei gilydd i gyfarfod am y tro cyntaf fis diwethaf.  

Mae Llŷr Gruffydd yn dweud bod gan y senedd “rôl ddifrifol” ac mae’n wfftio’r feirniadaeth mai “cam gwag” oedd ei sefydliad.

Yn ôl Aelod Cynulliad rhanbarth Gogledd Cymru, mai yna ddadl bod modd datblygu ei rôl ymhellach.

“Mae yna drafodaeth ynglŷn â sut all y Senedd Ieuenctid fod yn bwydo mewn yn ffurfiol i weithgarwch y senedd,” meddai wrth golwg360.

“Hynny yw, a allai fod cynrychiolydd yn eistedd ar rai o’n pwyllgorau ni yn achlysurol. Allan nhw fod yn dod â thystiolaeth? Allan nhw fod yn cyfrannu at ddadleuon yn y senedd ambell waith?”

Newid hinsawdd

Daw ei sylwadau yn dilyn ei anerchiad yng Nghynhadledd Plaid Cymru ym Mangor.

Yn ystod ei araith mi leisiodd ei bryderon am newid hinsawdd, ac mi bwysleisiodd mai rôl y genhedlaeth yma yw mynd i’r afael â’r her.  

Mae pobol ifanc yn “dangos y ffordd i ni”, meddai Llŷr Gruffydd “ond ni sy’n arwain”.

“Pan fyddan nhw’n ddigon hen i [ddelio â’r broblem] bydd hi’n rhy hwyr erbyn hynny,” meddai. “Neu bydd eu tasg nhw gymaint â hynny yn anoddach.

“A’i haberth gymaint â hynny yn anoddach yn sgil hynny. Dydyn ni methu gadael i’n hunain feddwl geith e ei drwsio ‘rhywbryd’. Mae’n rhaid i ni drwsio fe nawr.”