Mae cwpwl o Sir Ddinbych wedi penderfynu gadael Cymru a symud i fyw i Ffrainc – oherwydd Brexit.

Dywed Geraint a Gwenan Owain o Ruthun eu bod wedi penderfynu symud ar ôl treulio oriau yn ystyried.

Mae’r ddau – sydd a’u cefndir ym myd addysg – yn 62 oed. Er eu bod nhw yn byw yn Rhuthun, mae nhw hefyd yn berchen ar eiddo ger Limoges yn Ffrainc ac wedi bod yn teithio yn ôl a blaen yno dros gyfnod o 15 mlynedd.

Pam

“Y prif reswm ydan ni yn mynd ydi oherwydd y bydd yn haws i ni deithio pan rydan ni yn dewis teithio,” meddai Geraint Owain wrth golwg360.

“Dydi’r dewis yna ddim ganddon ni os oes Brexit. Bydd yr hawl i deithio yn rhydd yn diflannu.

“Os oes gen ti asedau yn Ewrop, mae eich reolaeth chi yn newid yn syfrdanol. Dyna pam mae hi yn haws i ni reoli ein asedau yn Ffrainc trwy fynd yno i fyw.

“Fel dinasyddion Prydeinig, fe allwn ni ddal ymlaen i gadw golwg ar ein asedau yng Nghymru. Dyna pam mae Jacob Rees-Mogg wedi symud pencadlys ei gwmni i Ddulyn.

‘Siarad hyll’

“Rhesymau eraill dros ein penderfyniad ydi fod natur cymdeithas ym Mhrydain wedi newid ers y sôn cyntaf am Brexit – ac wedi mynd i lawr.

“Mae yna siarad hyll ar y stryd; y rhegi a’r ffraeo. Dw i wedi siomi yn y diffyg arweiniad gan wleidyddion Prydeinig ac yng Nghymru at hyn. Mae Cymru wedi elwa gymaint o Ewrop. Mae yna ddiffyg arweinyddiaeth a diffyg trefniant.”

Mae’r ddau yn bwriadu aros yn Ffrainc am ddwy flynedd i weld be sy’n digwydd.

Dywed Gwenan Owain ei bod wedi anfon llythyr at ei Aelod Seneddol, y Ceidwadwr a chyn-weinidog Brexit David Jones, yn holi o ble y cafodd Llywodraeth San Steffan £14m i’w wario ar gwmni fferis Seaborne a chymaint o bobol yn dioddef oherwydd llymder a phwy a benderfyniodd wario £96m ar feysydd parcio i loriau.

Mae hi yn dal i ddisgwyl ateb, meddai.

“Mae’n llanast llwyr. Mae pawb wedi cael llond bol. Ond o’n safbwynt ni, roedd rhaid gwneud penderfyniadau. Ydan ni yn lwcus – rydan ni yn gallu mynd.”

Roedd Gwenan Owain yn aelod o’r grwp pop Sidan.