Bargen yn nes, ateb yr un mor bell

Diweddarwyd  

Theresa May

Llun: DonkeyHotey trwy Flickr

Roedd Donald Tusk yn llygad ei le ac mi ddylai Gadawyr ac Arhoswyr allu cytuno ar hynny.

O blaid gadael neu beidio, roedd mynd am Brexit heb gynllun yn waeth na gwirion. Mae hynny ynddo’i hun wedi gwastraffu biliynau o bunnoedd a pheryglu cannoedd o filoedd o swyddi.

Yn y diwedd, os bydd Brexit heb gytundeb o gwbl, fydd y ffigurau yna’n ddim ond chwarae bach.

Bargen yn fwy posib

Fel mae’n digwydd, mae rhyw fath o fargen yn ymddangos yn nes rŵan nag erioed o’r blaen ond, eto, ymhell o fod yn sicr.

Trwy gymysgedd o ofn, gwleidyddiaeth anfoesol a rhwystredigaeth, dydi hi ddim yn gwbl amhosib i Theresa May gael cytundeb drwy Dŷ’r Cyffredin.

Y peryg ydi y bydd hynny’n digwydd am y rhesymau anghywir i gyd, gan gynnwys y ffaith fod pobol wedi cael llond bol ar yr holl ddadlau.

Os bydd cefnogaeth rhai aelodau Llafur yn cael ei phrynu trwy addo arian i’w hetholaethau nhw, mi fydd hynny, yn y pen draw, yn tanseilio mwy fyth ar ffydd pobol mewn gwleidyddiaeth. Mi fydd yn ymylu ar lygredd.

Ac, os bydd y Ceidwadwyr a Llafur yn cytuno, mi fydd yn golygu bod y naill a’r llall wedi croesi ‘llinellau coch’ oedd yn ‘anghroesadwy’ cyn hyn.

Ond fydd hi ddim yn hawdd cyrraedd y fan honno …

Dewis Theresa

Yn eironig, tra oedd Theresa May yn chwarae un ochr yn erbyn y llall  trwy’r amser – rhai sy’n ofni Brexit di-fargen yn erbyn y rhai sy’n ofni dim Brexit – mae hi bellach mewn sefyllfa debyg.

Rhaid iddi ddewis rhwng digio’r Brexitwyr eithafol ar un llaw (gan nad ydi’r Undeb Ewropeaidd yn debyg o symud ar drefniadau Iwerddon) neu fethu â chael cefnogaeth hanfodol Llafur ar y llall.

Mi allai rwygo’r Blaid Geidwadol er mwyn cael ei bargen ond efallai na chaiff Llafur fawr o glod chwaith. Pam na fydden nhw wedi cynnig hyn achau’n ôl er mwyn osgoi’r holl boen i bawb?

Os bydd hi Theresa May a Jeremy Corbyn yn cytuno, cytundeb mewn niwl fydd hwnnw. Mae’n ymwneud â thrafodaethau sydd heb eu cael eto rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb.

Buddugoliaeth wag

Os bydd cytundeb, mi fydd Llafur a’r Ceidwadwyr yn hawlio buddugoliaeth ond, pwy bynnag fydd â’r hawl i wneud hynny, buddugoliaeth wag fydd hi.

Fydd Brexit Theresa May ddim byd tebyg i’r hyn oedd yn cael ei drafod cyn y refferendwm ac mi fydd undeb tollau’r Blaid Lafur yn golygu ein bod yn cael rhai o fendithion perthyn i’r Undeb heb fawr ddim o’r llais.

Os na fydd cytundeb, yr unig ateb call fydd refferendwm arall. Neu aros i mewn, wrth gwrs.

A pha un bynnag o’r posibiliadau yma sy’n digwydd yn y pen draw, mae un peth yn sicr; mi fydd y dadlau diflas yn parhau.

Y Blog Gwleidyddiaeth

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones