Fe fydd angladd cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Steffan Lewis yn cael ei gynnal heddiw (dydd Gwener, Ionawr 25).
Fe fu farw’r gwleidydd 34 oed ar Ionawr 11 yn dilyn brwydr gyda chanser y coluddyn.
Fe fydd angladd cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Eglwys Gymraeg Abercarn am 12.30yp gyda gwasanaeth preifat i’r teulu yn unig ym mynwent Abercarn i ddilyn.
Mae’r teulu wedi gofyn am roddion i Ganolfan Ganser Felindre lle cafodd Steffan Lewis driniaeth.
Mae’n gadael gwraig a mab 3 oed.