Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn dweud mai’r “her” i’w gyd-aelodau o hyn ymlaen atal ‘dim cytundeb’.

Yn ôl Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, roedd maint colled y Llywodraeth ar gytundeb Brexit yn Nhŷ’r Cyffredin nos Fawrth yn “fwy na beth ro’n i’n ei ddisgwyl”.

Mae’r aelod yn credu y dylai’r Prif Weinidog bellach “gymryd ‘dim cytundeb’ oddi ar y bwrdd gwleidyddol”, ac ystyried “syniadau amgen mwy synhwyrol” yn sgil hynny.

Mae’r syniadau hynny, yn ôl Jonathan Edwards, yn cynnwys “un ai pleidlais gair olaf i’r bobol mewn refferendwm neu newid y datganiad gwleidyddol i gynnwys aros o fewn y fframweithiau economaidd Ewropeaidd”.

“Dim gobaith i’w pholisi”

“Pe bawn i’n Brif Weinidog, fe fydden i’n edrych ar raddfa’r chwalfa mae hi wedi’i hwynebu heno, a  sylweddoli bod dim gobaith i’w pholisi hi o hyn ymlaen,” meddai Jonathan Edwards wrth golwg360.

“Ei dyletswydd hi wedyn yw i geisio ffeindio rhyw fath o gonsensws yn Nhŷ’r Cyffredin, ac mae’n gwybod o’r pleidleisiau sydd wedi bod yn barod bod dim mwyafrif o blaid y syniad hurt o adael heb gytundeb.

“Mae hynny’n ei gadael hi efo dau opsiwn… a dw i’n credu y dylai hi symud a gweithio gyda phobol o ochr arall Tŷ’r Cyffredin sy’n arddel y syniadau hynny.”