Mae’r Brexitiwr amlwg, Boris Johnson, yn dweud y bydd y bleidlais Brexit yn Nhŷ’r Cyffredin yn rhoi nges glir i’r Undeb Ewropeaidd.

Er ei fod yn mynnu nad oedd yn dathlu bod Theresa May a’i llywodraeth wedi’u curo tros y cytundeb i adael yr Undeb, fe ddywedodd fod y bleidlais yn cryfhau ei breichiau hi.

“Mae ganddi’n awr fandad cry’ o Dŷ’r Cyffredin i fynd i Frwsel a dweud nad ydi hwn am weithio, felly rhaid cael agwedd ffresh.”

Ar y llaw arall, mae ffigurau amlwg yn yr Undeb – yn wleidyddion a swyddogion – wedi gwneud yn glir nad oes dim gobaith y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud yn y cytundeb.

Mewn neges trydar yn union wedi’r bleidlais, fe awgrymodd Donald Tusk, Llywydd Cyngor Ewrop, mai’r ateb oedd i’r Deyrnas Unedig aros yn yr Undeb.

“Os yw cytundeb yn amhosib ac os nad oes neb eisiau gadael heb gytundeb, pwy yn y diwedd fydd â’r dewrder i ddweud beth yw’r unig ateb positif?”