Mae disgwyl y bydd y Prif Weinidog, Theresa May, yn dweud yn fuan iawn beth y mae’n bwriadu’i wneud ar ôl i’w chytundeb Brexit gael ei guro yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn ôl adroddiadau o’r Cabinet y bore yma, mae wedi pwysleisio y bydd yn parhau gyda Brexit ac, wrth agor diwrnod ola’r ddadl ar y cytundeb yn Nŷ’r Cyffredin, fe ddywedodd y Twrnai Cyffredinol y byddai cytundeb tebyg iawn yn cael ei gynnig eto.

Y tebygrwydd yw y bydd Theresa May yn gwneud datganiad heno, gan ddod â chynnig newydd i’r Senedd erbyn dydd Llun. Ond dyw hi ddim yn glir eto a fydd hi’n teithio i Frwsel i drafod gydag arweinydd yr Undeb Ewropeaidd.

Pedair pleidlais cyn yr un fawr

Ynghynt yn y dydd Llefarydd, John Bercow, wedi dewis pedwar gwelliant – ond fe gafodd pob un ond un eu tynnu:

  • Un gan Jeremy Corbyn, yr arweinydd Llafur, yn dileu’r cytundeb a galw am ystyried ‘pob dewis’.
  • Un gan blaid yr Alban, yr SNP, yn galw am ddileu Brexit a “pharchu” safiad Senedd yr Alban a Chynulliad Cymru yn erbyn gadael.
  • Dau welliant gan Geidwadwyr ynghylch y ‘backstop’ – y ddyfais i sicrhau na fydd ffin ar draws ynys Iwerddon. Fe gafodd un ei dynnu’n ôl wedi addewid gan Theresa May y byddai’n ystyried syniadau ac mae un yn destun pleidlais – byddai’n rhoi hawl i ddileu’r backstop heb gytundeb yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd yr aelod Llafur amlwg, Hilary Benn, wedi tynnu gwelliant arall yn ôl – fe fyddai hwnnw wedi gwahardd gadael yr Undeb heb gytundeb ond fe fyddai hefyd wedi cymylu’r bleidlais. Yn ôl Hilary Benn roedd angen dangos yn glir beth oedd maint colled y Llywodraeth.