Mae ffoadur oedd yn wynebu’r posibilrwydd o gael ei anfon yn ei ôl i’r Congo ar Ddydd Nadolig wedi diolch i gymuned Abertawe am eu cefnogaeth.

Cafodd Otis Bolamu ei arestio yn ei wely am 4 o’r gloch y bore ar Ragfyr 19, a’i gludo i ganolfan gadw yn Lloegr.

Roedd disgwyl y byddai’n gorfod dychwelyd i’w famwlad, ond mae wedi cael gwybod erbyn hyn y caiff aros am y tro, ac mae wedi dychwelyd i’r ddinas.

Roedd deiseb yn galw ar Sajid Javid, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, i ymyrryd wedi denu dros 12,000 o lofnodion.

Fe fydd ei achos nawr yn cael ei ystyried unwaith eto.

‘Diolch o galon’

“Fydda i fyth yn anghofio pan ddaethon nhw am 4 o’r gloch y bore i fy ’nôl i. Roedd hynny mor ddrwg. Roedd yn anhygoel.

“Fe ddywedon nhw fod rhaid i fi ddychwelyd i fy ngwlad.

“Ro’n i’n llawn ofn ac yn drist ac yn poeni pan wnaethon nhw fy ngorfodi i fynd.

“A phan ro’n i yn y ddalfa gyntaf, ro’n i fel pe bawn i’n crio a doedd neb yn gwrando. Oherwydd ro’n i i ffwrdd oddi wrth bawb.

“Mae fy ffrindiau yn Abertawe fel teulu i fi, ond allwn i ddim bod hebddyn nhw.

“Ond yna, ces i alwadau ffôn gan bobol yn dweud, “Paid â rhoi’r gorau iddi”.

“Ac fe welais i’r negeseuon ar Facebook a Twitter ac roedd y gefnogaeth wnaeth pawb ei rhoi i fi’n wych.

“Fe wnaeth fy nghadw i’n gryf a gwneud i fi wenu a gobeithio.

“A nawr, dw i eisiau dweud ‘Diolch yn fawr’ i bawb wnaeth fy helpu i gael fy mywyd yn ei ôl yn Abertawe.”